Cost of Living Support Icon

 

Dechrau'n Deg yn dod â Phegwn y Gogledd i'r Barri 

Cafodd dros 200 o blant ymweliad cofiadwy â ‘Phegwn y Gogledd’ yn ddiweddar, yn rhan o fenter gan dîm Dechrau’n Deg Cyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Mawrth, 24 Mis Rhagfyr 2019

    Bro Morgannwg



Flying start grotto team banner size

 

Creodd y tîm Ofod Nadoligaidd hyfryd yng Nghanol tref y Barri, gyda gweithdy corachod a groto Siôn Corn. 

 

Roedd croeso cynnes i’r plant yno, ynghyd â stori gan Mrs Corn, celf a chrefft yn y gweithdy, a chyfle i gwrdd â Siôn Corn ei hun a chael rhodd ganddo.

 

Dyma’r tro cyntaf i’r tîm gynnal digwyddiad o’r fath, ac roedden nhw wedi cael eu hysbrydoli gan eu hymweliadau nhw eu hunain gyda’u plant â grotos Siôn Corn.  Mae’r rhain yn gallu bod yn ddrud, fodd bynnag, yn enwedig i deuluoedd â mwy nag un plentyn. 

 

Roedd mynediad am ddim i ddigwyddiad Dechrau’n Deg ac roedd yn agored i deuluoedd Dechrau’n Deg a theuluoedd sy’n defnyddio gwasanaeth Synnwyr Chwarae’r Fro. Yn sgil ei lwyddiant, gobaith y tîm yw y bydd yn troi’n ddigwyddiad blynyddol.  

“Roedd hyn yn waith gwych gan Dechrau’n Deg a gwnaeth y tîm yn wych.  

 

“Gall cost y Nadolig fod yn llethol i deuluoedd ac mae digwyddiadau fel yr un yma yn sicrhau y gall pawn gymryd rhan.” - Dywedodd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio.