Cost of Living Support Icon

 

Canolfan Dysgu Cymunedol Palmerston yn rhoi yn ysbryd yr ŵyl

Mae staff a dysgwyr Canolfan Dysgu Cymunedol Palmerston wedi bod yn brysur yn casglu nwyddau i’w dosbarthu’n rhodd y Nadolig hwn.

 

  • Dydd Mawrth, 24 Mis Rhagfyr 2019

    Bro Morgannwg



Palmerston banner

 

Cludwyd cyfanswm o chwech o focsys bwyd, nwyddau tymhorol a phethau ymolchi i Fanc Bwyd y Fro, a gaiff eu dosbarthu i deuluoedd mewn angen ym Mro Morgannwg. 


Yn ogystal codwyd rhoddion ariannol gwerth £220, a ddefnyddiwyd i brynu teganau i blant yn y Fro fel rhan o’r Apêl Teganau blynyddol The Big Wrap. 


Nod The Big Wrap ydy rhoi anrhegion i blant o oedran genedigaeth i 19 oed sydd mewn perygl o gael dim byd neu ychydig iawn adeg y Nadolig. Mae Banc Bwyd y Fro yn gweithio yn yr un modd, yn rhoi bwyd i bobl mewn argyfwng.


Mae’r ddau sefydliad yn dibynnu ar roddion.


“Yn drist iawn, bydd llawer o deuluoedd a phobl ifanc heb ddim y Nadolig hwn. Mewn llawer o achosion, bydd chwant bwyd neu angen ‘cudd’, nad yw’n amlwg i’r rheiny sydd o’u cwmpas.


“Rydym yn anhygoel o lwcus yn y Fro i gael cymuned hael, glos a chefnogol, sy’n estyn allan at y rheiny sydd mewn angen. Diolch i bawb a fu’n rhan o’r ymgyrch hon, bydd eich rhoddion yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr." - y Cynghorydd. Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd.