Cost of Living Support Icon

 

Tŷ Rondel yn dathlu'r Nadolig gyda gwahanol genedlaethau

Cydweithiodd Cyngor Bro Morgannwg yn ddiweddar gydag ysgolion lleol i gynnal llu o weithgareddau Nadoligaidd ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau dydd.

 

  • Dydd Mawrth, 24 Mis Rhagfyr 2019

    Bro Morgannwg



Whitmore high pupils banner size

 

Aeth disgyblion o Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Ysgol Gynradd Heol Holltwn ac Ysgol Uwchradd Whitmore ar ymweliad â’r gwasanaeth dydd i berfformio carolau Nadolig, gyda disgyblion Whitmore hefyd yn cyfrannu bwyd.  

 

Casglwyd yr hamperi gan y disgyblion a’r datblygwyr Morgan Sindall, sydd wrthi’n adeiladu eu hysgol newydd ar hyn o bryd. 

 
Yn rhan o Buds & Blooms, aeth grwpiau o blant dan 5 oed ar ymweliad â’r gwasanaeth dydd ddwywaith yn ystod yr wythnos, gan ymuno â’r henoed ar gyfer Parti Nadolig Pontio’r Cenedlaethau a sesiwn gelf a chrefft.  


Bu defnyddwyr y gwasanaethau yn gwneud gweithgareddau ffitrwydd a sesiynau canu, ynghyd â pherfformiadau cerddorol eraill.  

“Gall y Nadolig fod yn gyfnod ofnadwy o unig, yn enwedig i bobl hŷn neu bobl sy’n byw gyda chyflyrau fel Dementia. 


“Mae Tŷ Rondel wir yn gefn i breswylwyr sydd yn fregus oherwydd oed, salwch cronig, anabledd neu broblemau iechyd meddwl. Mae’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu yn fodd i fyw o lawer yn ystod y cyfnod hwn, yn cynnig ysbaid hefyd i deuluoedd a phartneriaid, a chyfleoedd i’w defnyddwyr gymdeithasu.

 
“Mae haelioni a chymwynasgarwch y bobl ifanc sydd wedi cyfrannu at yr wythnos wedi bod yn ysbrydoliaeth. Y myfyrwyr eu hunain drefnodd y casgliadau ar gyfer yr hamperi, a nhw hefyd gynigiodd ganu a pherfformio ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth.” - y Cyng. Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd.