Cost of Living Support Icon

 

Y lolipops gorau! Datgelu'r enillwyr o blith herbryngwyr croesfannau ffordd y Cyngor

Mae nifer o swyddogion croesfannau ffordd Cyngor Bro Morgannwg wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Diogelwch Ffyrdd y Fro, yn Swyddfa’r Dociau yn y Barri.

 

  • Dydd Llun, 23 Mis Rhagfyr 2019

    Bro Morgannwg



Kerbcraft volunteers banner size
Mae’r gwobrau blynyddol, a drefnir gan Dîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor y Fro, yn rhan o’r grŵp Datblygu Priffyrdd a Thrafnidiaeth, yn cydnabod a gwobrwyo cyfraniad y sawl sy’n gweithio fel hebryngwyr croesfannau ffordd ledled y sir.  


Aeth y brif wobr ar gyfer Hebryngwyr Croesfannau’r Flwyddyn i Nicholas Latham, aelod poblogaidd o gymuned Ysgol San Helen.  Mae Nicholas yn help disgyblion ar ran brysur o’r ffordd fawr ar Fryn Tynewydd.  


Roedd enillwyr eraill yn cynnwys Ruth Grant, a enillodd y wobr ar gyfer ardal y Barri, Julie Ellis a enillodd ar gyfer ardal Llanilltud Fawr a’r Fro Wledig, a David Regan a enillodd ar gyfer ardal Penarth, Sili a Dinas Powys.


Diolchwyd hefyd i bedwar aelod sydd wedi bod wrthi ers talwm ac sydd wedi ymddeol neu symud yn eu blaen yn ystod y flwyddyn, gyda 63 o flynyddoedd o wasanaeth rhyngddynt.  Rhoddwyd diolch arbennig hefyd i gydlynwyr a gwirfoddolwyr Cynllun Hyfforddi Cerddwyr Ifanc Kerbcraft.  Eleni, mae 600 o blant 6 i 7 oed wedi dysgu i groesi’r ffordd yn ddiogel, diolch i’r cynllun.

 
Cafwyd bwffe a chwis diogelwch ar y ffyrdd, gyda rhai hefyd yn cymryd rhan mewn gêm i osod pin ar ‘Trwyn ar y Carw’. 


Diolchwyd i bawb a ddaeth ynghyd gan y Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a’r Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg. Dwedodd:

“Cafodd y Gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgolion a’r Cynllun Kerbcraft eu sefydlu i gadw plant yn ddiogel ar neu ger ein heolydd prysur.  Mae llwyddiant y cynllun yn dibynnu ar ymrwymiad ac ymroddiad unigolion.


“Mae pawb yma wedi helpu i gadw heolydd y Fro’n ddiogel dros y flwyddyn ddiwethaf - diolch i chi i gyd a Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda."