Cost of Living Support Icon

 

Ffair Wirfoddoli Fawr GVS

Dydd Mercher 23 Ionawr 2019, 10.00am – 2.30pm

Neuadd Goffa’r Barri 

 

Crowd of people

Bydd dros 50 o sefydliadau gwirfoddol yn dod at ei gilydd yn Neuadd Goffa’r Barri i ddathlu gwirfoddoli, mewn digwyddiad recriwtio gwirfoddolwyr.

 

Bydd yn gyfle gwych i bobl siarad yn uniongyrchol gyda sefydliadau sy’n darparu gwirfoddolwyr a darganfod mwy am y cyfleoedd cyffrous sydd ganddynt. Daeth dros 400 o unigolion o’r gymuned leol i ddigwyddiad tebyg yn 2017 i ymchwilio i gyfleoedd gwirfoddoli.

 

 “Rydyn ni’n estyn gwahoddiad cynnes i’r cyhoedd wneud gwahaniaeth yn y Fro drwy wirfoddoli.  Os oes gennych awr rydd yr wythnos neu ddiwrnod rhydd bob mis, ac awydd gwybod mwy am wirfoddoli, bydd croeso mawr i chi yn ein digwyddiad ym mis Ionawr.” - Paul Warren, GVS

 

Mae gwirfoddoli’n ffordd wych i gynyddu hyder, gwella CV, cwrdd â phobl newydd, cael profiadau newydd a helpu’r gymuned.

 

www.gvs.wales 

 

Rhif Elusen Gofrestredig 1163193