Cost of Living Support Icon

 

Ardal chwarae newydd yn Llan-gan yn gwireddu gweledigaeth plant

Agorwyd ardal chwarae newydd yn Fferm Goch, Llan-gan yr wythnos hon gan Ddirprwy Faer Bro Morgannwg, y Cynghorydd Christine Cave. Disgyblion o Ysgol Gynradd Llan-gan a ddyluniodd yr ardal chwarae.  

 

  • Dydd Llun, 21 Mis Ionawr 2019

    Bro Morgannwg



Cllr Cave opens new play area at Llangan
Wedi ei hariannu gan £47,000 o gronfa adran 106 a ddeilliodd yn sgil datblygiad tai ar safle hen ganolfan arddio, mae’r ardal chwarae newydd yn cynnwys siglenni, uned ddringo, offer chwarae trywydd a sbonciwr ar gyfer plant iau.  

 

Yr artist cyhoeddus Emma Price a arweiniodd y project, ac fe gynhaliodd gyfres o weithdai gyda’r disgyblion. Dechreuodd drwy helpu’r disgyblion ddeall sut i fynd ati i ddylunio project o’r math hwn ac wedyn eu helpu i ddatblygu eu syniadau a chreu lluniau ohonynt, cyn eu troi’n gynlluniau go iawn.  

 

Mae Setliad Tiroedd Cymru’n thema i’r ardal chwarae, ac mae’n adlewyrchu treftadaeth amaethyddol Fferm Goch. Mae arwyneb yr ardal chwarae wedi ei ddylunio i adlewyrchu hyn.

 

Emma Price with pupils from Llangan Primary School

Dywedodd y Cynghorydd Cave, sydd hefyd yn cynrychioli ward Llan-gan: “Roedd gwir angen uwchraddio’r hen gyfleusterau chwarae, ac mae’n wych gweld buddsoddiad fel yr un yma yn y Fro wledig. 

 

"Mae gwelliannau wedi eu gwneud i lawer iawn o fannau chwarae’r Fro dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae’r un yma’n unigryw gan ei fod wedi ei gynllunio gan blant ar gyfer plant.

 

"O ganlyniad, gallwn fod yn sicr bod y cyfleusterau wir yn adlewyrchu dyheadau’r plant a fydd yn eu defnyddio.  

 

“Er gwaethaf y tywydd gaeafol, rydyn ni eisoes wedi gweld llawer o blant a phobl ifanc yn mwynhau’r ardal chwarae, ac mae hynny’n brawf o lwyddiant y project.” 

 

Dywedodd Susan Price, Pennaeth Ysgol Gynradd Llan-gan: “Roedd y project o fudd mawr i’r disgyblion fu ynghlwm wrtho. Datblygodd eu sgiliau celf a dylunio ac fe ddaethon nhw i ddeall hefyd sut mae’r cyfleusterau cyhoeddus maen nhw’n eu defnyddio ddydd i ddydd y cael eu creu a’u rheoli.  

 

“Roedd rhai o’u dyluniadau o’r safon uchaf bosibl, ac mae’r ffaith bod disgyblion mor ifanc ag wyth mlwydd oed wedi datblygu’r project hwn yn dangos yr hyn y gall plant ei wneud.”

New play area at Llangan

Dechreuodd y gwaith ganol mis Hydref ac fe’i cwblhawyd ym mis Rhagfyr 2018. Mae dwy fainc ychwanegol a bin newydd hefyd wedi cael eu hychwanegu. 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wrthi ar hyn o bryd yn gwella nifer o fannau chwarae. Mae gwaith ar fin dod i ben yn Batts Field yn y Barri, ac ar gychwyn yn Nhregolwyn.

 

Bwriedir gwella cyfleusterau yng Ngwenfô a’r Murch yn Ninas Powys hefyd yn 2019.