Cost of Living Support Icon

 

Llwyfan Gwylio Penarth i ailagor

Disgwylir i Lwyfan Gwylio Penarth ailagor erbyn canol y mis nesaf, ar ôl i’r contractwyr gwblhau’r gwaith cywiro y gofynnwyd amdano gan y Cyngor. 

  • Dydd Iau, 17 Mis Ionawr 2019

    Bro Morgannwg

    Penarth



Adeiladwyd y llwyfan gan gontractwyr ym mis Mai 2015 ond datblygodd hollt ar yr adeiledd chwe mis yn ddiweddarach.


O ganlyniad, caewyd y llwyfan am gyfnod i alluogi archwilio’r llwyfan ac wyneb y clogwyn a sefydlwyd rhaglen fonitro.


Pan ddatgelwyd nad oedd asiadau symudol wedi’u hadeiladu yn unol â’r dyluniad gwreiddiol, gofynnwyd i’r contractwr eu gosod fel a fwriadwyd.


Penarth Viewing platformMae monitro pellach wedi datgelu problemau eraill gyda’r gwaith adeiladu a fyddai’n esbonio’r hollti a bydd contractwyr nawr yn ymgymryd â gwaith ychwanegol i gywiro hyn.


Dylai hynny alluogi ailagor y llwyfan o fewn rhyw bedair wythnos.


Yna  bydd y Cyngor yn parhau i asesu’r adeiledd trwy ddefnyddio offer dibynadwy i geisio atal problemau yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd Bro Morgannwg: “Mae lles y cyhoedd yn hollbwysig i ni ac i’r perwyl hwn rydym wedi bod yn drylwyr yn ein harchwiliadau diogelwch o Lwyfan Gwylio Penarth ac wedi mynnu bod y contractwyr yn cwblhau’r holl waith adfer angenrheidiol.


“Mae’n bleser mawr gennyf ddweud ei bod yn ymddangos bod y problemau gyda’r adeiledd hwn bellach yn perthyn i’r gorffennol a dylai ailagor mewn mis.


“Mae’r llwyfan yn cynnig golygfeydd godidog ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ac rwy’n siŵr y bydd yn rhoi pleser mawr i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.”