Cost of Living Support Icon

 

Mae ysgolion ledled Cymur yn elwa o oriel gelf y Barri

Cymerodd ugain o athrawon ysgol lleol ran mewn digwyddiad hyfforddi proffesiynol yn Oriel Celf Ganolog y Barri yn ddiweddar, gan ddod at ei gilydd i drafod dulliau newydd o ddysgu'r celfyddydau mynegiannol.

 

  • Dydd Mawrth, 22 Mis Ionawr 2019

    Bro Morgannwg



Jenner Park School Pupils at Art Central Gallery

Daeth yr athrawon – a adweinir fel "Eiriolwyr Celf" yn eu hysgolion yn ardal Canolbarth De Cymru – at ei gilydd i rannu syniadau er mwyn paratoi ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.

Wedi'u hysbrydoli gan y lleoliad, defnyddiwyd arddangosfa Philip Muirden yn yr oriel i drafod sut y gellid defnyddio gofodau ac arddangosfeydd tebyg i ysbrydoli addysgu a dysgu creadigol yn eu hysgolion.

Hwyluswyd y digwyddiad gan A2Connect, sy'n cynnal rhwydweithiau proffesiynol ac yn meithrin cydweithredu rhwng athrawon y celfyddydau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Mae A2Clymu yn bartneriaeth rhwng y Criw Celf ac awdurdodau lleol rhanbarthol, gan gynnwys Cyngor Bro Morgannwg, cynghorau Rhondda Cynon Taf, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful, ac fe'i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.   

Y bore Gwener canlynol, gwelwyd tri deg o ddisgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol Gynradd Parc Jenner gerllaw yn cymryd rhan mewn trafodaethau ac astudiaethau arsylwadol agos yn yr oriel, a wnaeth ymateb drwy greu darluniau a chyfansoddiadau a gymerodd ysbrydoliaeth o ddelweddau Muirden.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant yng Nghyngor Bro Morgannwg: 

 

"Mae hon yn enghraifft wych o sut rydym ni, fel Cyngor, yn ceisio cydweithio â phartneriaid mewn ymdrech i arloesi a gwella ein gwasanaethau.

"Fe wnaeth y digwyddiad alluogi ein hathrawon i rannu syniadau gyda rhai o awdurdodau lleol cyfagos, a mynd yn ôl i'w hysgolion ac ysbrydoli eu disgyblion.


"Rwy'n gobeithio bod y digwyddiad wedi bod yn fuddiol i'r athrawon oedd yn bresennol, ac i ddisgyblion ar draws y sir a fydd, mae'n siŵr gennyf, yn edrych ymlaen at wersi celf creadigol newydd!"


Mae’r Oriel Celf Ganolog yn agored i'r cyhoedd dydd Llun - dydd Gwener 9:30am-4:30pm a 3:30pm ar ddydd Sadwrn.

Mae'r arddangosfa nesaf o gerfluniau gan Alison Lochhead a phaentiadau digidol gan Nereya Martinez de Lecea yn agor yn ffurfiol ar ddydd Sadwrn 26 Ionawr am 11am.

I gael gwybodaeth bellach ynghylch datblygiad proffesiynol neu ynghylch ymweld â'r galeri gyda'ch ysgol, cysylltwch â Gwasanaeth Datblygu'r Celfyddydau ar 01446 709805 neu ewch i: www.valeofglamorgan.gov.uk.

 A2Connect Networking Meeting