Cost of Living Support Icon

 

Maer y Fro i gynnal Digwyddiad Cofio’r Holocost

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn dathlu Diwrnod Cofio'r Holocost (DCH) gyda dwy arddangosfa yn Oriel Gelf Ganolog y Fro.

 

  • Dydd Mercher, 23 Mis Ionawr 2019

    Bro Morgannwg



Digital Painting at Art Central

Yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 26 Ionawr, bydd arddangosfa ‘Gorfodi o Gartref’ yn cynnwys y Cynghorydd Leighton Rowlands, Maer Cyngor Bro Morgannwg, yn cyflwyno cerfluniau Alison Lochhead, ‘Layered memories of Conflict and Abandonment’ a chasgliad yr artist digidol penigamp, Nerea Martinez de Lecea, ‘Child A’.

 

Bydd yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant, y Cynghorydd Bob Penrose yn ymuno â’r Cynghorydd Rowlands, a fydd yn croesawu’r ddau artist i’r oriel.

 

Yna, bydd yr artistiaid, yn eu tro, yn trafod eu gwaith ar themâu atgofion, gwrthdaro a hunaniaeth.

 

Mae Alison Lochhead yn dweud stori gwrthdaro, mudo a dinistrio diwylliant a hanes drwy ei gosodiad o esgidiau haearn bwrw, llyfrau wedi’u llosgi a cholofnau rwbel, tra bod paentiadau digidol ‘Child A’ Nerea Martinez de Lecea yn ymchwilio i hunaniaeth ranedig a synnwyr a theimlad anhrefnus o ran bod yn y byd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rowlands:

 

“Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn cael ei gynnal ar 27 Ionawr – yn nodi’r dyddiad y cafodd Auschwitz-Birkenau ei ryddhau.

 

“Rwy’n gobeithio y bydd llawer o’n preswylwyr yn ymuno â’r Oriel Gelf Ganolog dros y penwythnos i dalu teyrnged a chofio’r rheiny a gollodd eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac mewn hil-laddiadau dilynol.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Penrose:

 

“Bydd arddangosfa eleni’n cynnig cymysgedd unigryw o gerfluniau a gwaith celf digidol gan Lochhead a Martinez de Lacea, y ddau’n artistiaid penigamp sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

 

“Er bod yr arddangosfeydd yn amrywio o ran cyflwyno eu themâu, mae’r ddwy’n galluogi eu cynulleidfaoedd i ystyried hil-laddiad a cholli hunaniaeth.

 

“Mae thema eleni, sydd wedi’i gosod gan Ymddiriedaeth Cofio’r Holocost yn ein hatgoffa ni na ddylai erchylltra o’r fath ddigwydd byth eto.”  

 

Abandonment and Migration, Alison LochheadMae’r thema ‘Gorfodi o Gartref’ yn annog cynulleidfaoedd i adlewyrchu ar sut mae colli lle diogel sy’n ‘gartref’ iddynt yn rhan o’r trawma a wynebir gan unrhyw un sy’n cael profiad o erlyniad a hil-laddiad.

 

Mae’r arddangosfa’n agor am 11:00am ar 26 Ionawr, ac mae ar agor i bob aelod o’r cyhoedd.

Gallwch ei gweld yn yr Oriel Gelf Ganolog, Sgwâr y Brenin, Y Barri, tan ddydd Sadwrn 02 Mawrth 2019.

 

Mae’r oriel ar agor dydd Llun tan ddydd Gwener, rhwng 09:30am a 4:30pm, a rhwng 09:30am a 3:30pm ar ddydd Sadwrn.

 

I gael rhagor o wybodaeth am hyn ac arddangosfeydd yn y dyfodol yn yr Oriel Gelf Ganolog, ewch ar www.valeofglamorgan.gov.uk/artcentral.