Cost of Living Support Icon

 

Rhybudd i drigolion y Fro ynghylch twyll Treth Gyngor

Mae trigolion yn cael eu rhybuddio am sgamiau sy’n cynnig nifer o wasanaethau Treth Gyngor, gyda’r bwriad o gael gafael ar fanylion talu.

  • Dydd Mercher, 23 Mis Ionawr 2019

    Bro Morgannwg


 

Inbox

Mae nifer o breswylwyr wedi dweud bod twyllwyr wedi cysylltu â nhw, gan ddefnyddio brandio Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a GovDelivery mewn e-byst a gofyn i bobl:

  • Hawlio ad-daliad Treth Gyngor; neu

  • Dalu dyled; neu

  • Wneud cais i ostwng eu band Treth Gyngor.

 

Mae gohebiaeth gan y twyllwyr wedi ei hanfon gan “Andrew Walsh, Head of Digital Communication Services” gyda “Council Tax and Payroll Service” fel pennawd, ac wedi ei hanfon o’r cyfeiriad e-bost city.council.payroll.services.gov.uk@tax.com.

 

Anogir preswylwyr i beidio â datgelu eu manylion bancio nac unrhyw wybodaeth bersonol arall os bydd rhywun yn cysylltu â nhw i gynnig gwasanaeth o’r fath.

 

Gofynnir i bawb sy’n derbyn gohebiaeth fel yr un uchod i hysbysu’r Cyngor, naill ai drwy ffonio 01446 709564 neu e-bostio CouncilTax@valeofglamorgan.gov.uk.

 

Mae cyfarwyddyd hefyd ar gael gan y Gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth.

  • 03454 040506