Cyngor Bro Morgannwg yn addo £4 miliwn tuag at adeilad newydd yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant
Disgwylir i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant yn Nhregolwyn gael ei hestyn a chael adeilad newydd sbon ar ôl i gan Gabinet Cyngor Bro Morgannwg gytuno ar gynlluniau £4 miliwn ddydd Llun.
Yn unol â'r cynigion, bydd yr ysgol yn tyfu i roi lle i 210 o ddisgyblion yn lle 140 ohonynt a chaiff adeilad newydd ei adeiladu ar y safle presennol.
Bydd hyn yn ateb y galw am leoedd ysgol gynradd fydd o ganlyniad i nifer o ddatblygiadau tai mawr sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y Fro.
Caiff y gwaith ei wneud yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, cydweithrediad unigryw rhwng Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Lleol sydd eisoes wedi cynnwys £31 miliwn yn cael ei ymrwymo wrth chwe phroject dan gam cyntaf y project, sef Band A.
Caiff £144 miliwn ei wario yn ystod cyfnod Band B wrth i’r ymrwymiad enfawr hwn i drawsnewid addysg feithrin, cynradd, uwchradd, ffydd ac arbennig ledled y Sir barhau.
“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod plant ym mhob rhan o’r Fro yn cael y cyfle gorau i lwyddo. Dyna yw’r uchelgais sy’n sail i’n Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, sy'n cynrychioli ymrwymiad enfawr i wella cyfleusterau addysgol,” meddai’r Cyng. Bob Penrose, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant.
“Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant yw’r ysgol ddiweddaraf mewn rhestr hir o ysgolion i gael eu huwchraddio. Bydd yn cael adeilad modern o ansawdd a all gefnogi’r gwaith o ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys a hefyd roi lle i nifer disgyblion y disgwylir iddo gynyddu.
“Gall hwn a phrojectau tebyg wneud gwahaniaeth go iawn i filoedd o blant y Fro, gan eu helpu i gael dyfodol addawol a boddhaol."
News about St David’s comes swiftly after it was revealed Pencoedtre High School and St Nicholas Church in Wales School are to undergo total rebuilds instead of redevelopment.
That is because an increase in the contribution from Welsh Government means the Council is now paying a lower percentage towards 21st Century Schools projects and the money saved can be spent on expanding the scope of certain schemes.
It was decided refurbishing St David’s School’s current teaching areas would not bring them up to 21st Century Standards so a new building was essential.
In total £4.185 million will be spent on this structure and it is due to open in September 2021.
Numerous other 21st Century Schools projects have been completed or are in the pipeline, including the likes of Penarth Leaning Community, Llantwit Learning Community and a recently announced proposal to provide a new primary school building for Barry Waterfront.