Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn cefnogi cyrsiau iechyd meddwl clwb chwaraeon

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn helpu clybiau chwaraeon a gweithgareddau corfforol o’r Sir i ddysgu am yr effaith gadarnhaol y gall ymarfer corff gael ar iechyd meddwl. 

 

  • Dydd Iau, 24 Mis Ionawr 2019

    Bro Morgannwg



Cynhaliodd Mind gyrsiau ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn y Barri, Penarth a Llanilltud Fawr, gyda 46 o bobl yn mynychu. 


Mae rhestr o glybiau a sefydliadau sy’n deall iechyd meddwl wedi ei chreu o blith y rhai a fynychodd a bydd y rhestr yn cael ei dosbarthu ymhlith elusennau iechyd meddwl.


Maen nhw’n cynnwys: Canolfan Hamdden y Barri, Clwb Pêl-rwyd y Barri, Barry Town Utd, YMCA y Barri, Arweinwyr Seiclo Breeze Ride, Saethyddion Celyn (Caerdydd), Forces Fitness, Clwb Bowls Llanilltud Fawr, Canolfan Hamdden Llanilltud Fawr, Clwb Tenis Llanilltud Fawr, Love Life Live Fitness, Hyfforddiant Personol Michelle Grant, Clwb Rygbi’r Hen Benarthiaid, Clwb Pêl-rwyd y Red Dragons, Achubwyr Bywyd y Rhws, Clwb Bowls Dan Do Sili, Gwersi Swimability y Barri, Clwb Pêl-droed y Saint, Atgyfeiriadau Meddygon Teulu’r Fro, Adran Datblygu Chwarae’r Fro a Chlwb Surf Living Saving y Fro.


mentalhealthawarenessDerbyniodd pawb a fynychodd fand arddwrn a bathodyn, y gellir eu gwisgo yn ystod sesiwn chwaraeon i ddangos eu bod yn hapus i siarad am iechyd meddwl. 

Gall ymarfer corff gael effaith hynod gadarnhaol ar iechyd meddwl unigolion, ac mae’n arbennig o werthfawr ar gyfer y rhai sy’n dioddef straen, gorbryder ac iselder. 

 

Nod y project hwn yw cael gwared ar stigma iechyd meddwl a’i gwneud yn haws i bobl sydd â chyflyrau o’r fath gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a theimlo’n rhan o fywyd clwb chwaraeon. 

Bydd logo Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl y Fro yn cael ei anfon at bawb a ddaeth i’r hyfforddiant er mwyn iddyn nhw ei ychwanegu at eu deunydd marchnata. 
Bydd cwrs ymwybyddiaeth iechyd meddwl mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn cael ei threfnu nes ymlaen eleni.  

 

Cllr Gordon Kemp, Vale of Glamorgan Council Cabinet Member for Social care, Health and Leisure, said: “Mental health issues can affect anyone and it’s important that they are discussed in as open a way as possible. I’m delighted that the Council can play a part in bringing such an important subject into the mainstream.


“Sport and physical exertion can have a strong positive impact on an individual’s wellbeing and I hope this course will make it that bit easier for people who struggle with mental health issues to become more active.” 

Anyone wishing to participate in the next mental health awareness course should contact the Council’s Senior Healthy Living Officer Simon jones by emailing SLJones@valeofglamorgan.gov.uk