Cost of Living Support Icon

 

Llyfrgelloedd Bro Morgannwg yn danfon llyfrau i bobl sy’n gaeth i’w cartrefi

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi recriwtio gwirfoddolwyr newydd i ddanfon llyfrau i gartrefi'r bobl hynny na allant fynd i’w llyfrgell leol mwyach

 

  • Dydd Llun, 28 Mis Ionawr 2019

    Bro Morgannwg



Yn rhan o raglen gymunedol, mae’r Gwasanaeth Llyfrgell Cartref yn darparu i drigolion sydd â phroblemau symudedd, cyfrifoldebau gofalu neu broblemau eraill wasanaeth sy’n cynnwys amrywiaeth o deitlau. 


Bob pedair wythnos bydd gwirfoddolwr yn gadael bag o lyfrau gyda’r darllenwr ac yn casglu llyfrau’r mis blaenorol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant: “Dyma gynllun gwych sy’n cynnig i drigolion na allant fynd i’w llyfrgell leol y cyfle i fwynhau'r llyfrau sydd yno.


“Mae darllen yn hobi boddhaol iawn ac rwy’n siŵr bod gwasanaeth fel hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i aelodau ein cymuned sy’n gaeth i’w cartrefi am un rheswm neu’r llall.”

 libpicMae llyfrau ar gael mewn fformatau amrywiol, gan gynnwys testun mawr neu recordiadau ar CD.


Mae angen i’r bobl hynny sy’n defnyddio’r gwasanaeth roi enghraifft o’r llyfrau maen nhw’n eu hoffi, efallai trwy sôn am awdur neu genre, a bydd y gwirfoddolwr yn gwneud y gweddill.

 

Dywedodd Veronica Oakes o’r Bont-faen: “Rwyf wedi bod yn defnyddio’r Gwasanaeth Llyfrgell Cartref ers dwy flwyddyn a hanner. Mae’n ffantastig. Rwy’n gaeth i fy nghartref fwy neu lai felly mae'r gwasanaeth o gymorth mawr i mi."

Os hoffech chi fanteisio ar y gwasanaeth hwn, ffoniwch yr Uwch Lyfrgellydd, Melanie Weeks ar 02920 708438 am fwy o wybodaeth.