Cost of Living Support Icon

 

Oriel Gelf Ganolog yn dathlu Celf yn y Fro

Drwy gydol mis Gorffennaf, caiff gwaith mwy nag ugain o arlunwyr lleol ei arddangos yn Oriel Gelf Ganolog, oriel gelf enwog Cyngor Bro Morgannwg.  

 

  • Dydd Mawrth, 09 Mis Gorffenaf 2019

    Bro Morgannwg



Cllr Kathryn McCaffer with artists at exhibition banner size
Aeth yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer, i’r digwyddiad agoriadol ar 3 Gorffennaf, ynghyd â rhyw 60 gwestai, yn cynnwys yr arlunwyr. 


“Mae gennyn ni gymuned ardderchog o arlunwyr a chrefftwyr yn y Fro. Mae’r arddangosfa hon yn gyfle gwych i ddathlu creadigrwydd, sgiliau, profiad ac arbenigedd yr arlunwyr.” - Kathryn McCaffer.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith o gyfryngau amrywiol gan arlunwyr o bob rhan o’r Fro. 


Mae llawer o ddarnau yn dangos annwyl ardaloedd y Fro, yn y gorffennol a’r presennol. Dywedwyd bod y gwaith yn dangos llawer o emosiwn, hiwmor ac agweddau dramatig. 


Yr wythnos flaenorol, cafodd gwesteion o Drefi Gefeilliedig y Fro yn yr Almaen, Gwlad Belg a Ffrainc ragolwg o’r arddangosfa. 


Mae’r arddangosfa ar agor tan ddydd Sadwrn 3 Awst, 3:30pm yn Oriel Gelf Ganolog, Sgwâr y Brenin, Y Barri. Os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r isod. 

 

  • 01446 709805