Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn cytuno ar fuddsoddiad £2.5 miliwn ar gyfer ffyrdd y Fro

Mae rhaglen buddsoddi mewn cynnal a chadw priffyrdd gwerth dros £2.5 miliwn wedi’i chytuno gan Gyngor Bro Morgannwg.  

 

  • Dydd Mercher, 03 Mis Gorffenaf 2019

    Bro Morgannwg



Ar 1 Gorffennaf cymeradwyodd y Cabinet gynllun tair blynedd sy’n rhestru blaenoriaethau o ran adnewyddu arwynebedd ffyrdd lle bo angen ar draws rhwydwaith priffyrdd y Fro.

 

Bydd cyfanswm o 144 o ffyrdd yn cael arwyneb newydd yn ystod cyfnod y cynllun a gosodir ar 66 o ffyrdd ‘asffalt-micro’ fel mesur ataliol, neu driniaethau gorchuddio arwyneb.

 

“Mae ffyniant Bro Morgannwg yn ddibynnol i raddau helaeth ar seilwaith trafnidiaeth effeithiol. Darperir y sylfaen ar gyfer hyn drwy’r cynllun a gytunwyd heddiw a bydd hefyd yn sicrhau bod rhwydwaith priffyrdd wedi ei gynnal a’i reoli’n dda i’n trigolion.

 

 “Cafodd yr holl ffyrdd sydd ar y cynllun eu hasesu gan ddefnyddio system sgorio sy’n sicrhau y bydd y ffyrdd sydd angen sylw fwyaf, gan gynnwys rhai o’r ffyrdd prysuraf a ddefnyddir gan breswylwyr y Fro, yn cael y sylw hwn. Caiff y rhestr flaenoriaeth wedyn ei hadolygu’n flynyddol i sicrhau ein bod ni’n gweithio i weithredu ar anghenion ein trigolion.

 

 “Mae hyn i gyd yn mynd gam ymhellach na’r gwaith archwilio ac atgyweirio priffyrdd arferol y mae ein timau Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth yn ei gydlynu drwy gydol y flwyddyn. Mae croeso i’n trigolion oll adrodd am geubyllau a phroblemau eraill ar ein ffyrdd ar unrhyw adeg gan ddefnyddio ein gwefan a chaiff achosion sy’n flaenoriaeth eu trwsio o fewn 24 awr.” - Cynghorydd Peter King, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth.

Mae’r meini prawf i asesu blaenoriaethau ar gyfer gosod arwyneb newydd ar briffyrdd yn cynnwys cyfres o ffactorau megis cwynion gan drigolion a’r effaith ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus lleol, megis llwybrau bysus.

 

Cynhelir 1032km o ffyrdd gan Gyngor Bro Morgannwg. Y llynedd gwnaed gwaith gosod arwyneb newydd neu waith atgyweirio ataliol ar 30km ohonynt.

 

Yn ogystal â’r gwaith atgyweirio arferol a’r gwaith trwsio brys, mae gan y Cyngor gynllun ‘Trwsio Twll’ ar gyfer gwaredu ceubyllau. Dan y cynllun caiff trigolion adrodd am geubyllau yn eu hardaloedd lleol a bydd y Cyngor yn eu trwsio gan gyflawni gwaith ychwanegol ar y penwythnosau.

 

Bydd y tîm Trwsio Twll yn ymweld â ward Plymouth ym Mhenarth a Dinas Powys ym mis Gorffennaf cyn symud i Sain Tathan ym mis Awst. Gallwch adrodd am geubyllau yn yr ardaloedd hyn ar ein gwefan.

 

Rhoi gwybod am geubwll