Cost of Living Support Icon

 

Cymeradwyo'r gwaith i adfywio Sied Nwyddau

Mae project cyffrous gwerth £9 miliwn i droi’r hen Sied Nwyddau reilffordd a’r tir cyfagos yn Hood Road, Glannau’r Barri, yn gynllun defnydd cymysg, gan gynnwys pentref cynwysyddion llong a chyfadeilad fflatiau wedi cael ei gymeradwyo.

 

  • Dydd Llun, 15 Mis Gorffenaf 2019

    Bro Morgannwg



Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dod i gytundeb i ganiatáu i’r datblygwyr LoftCo drawsnewid yr adeiledd i le swyddfa, unedau manwerthu, bwytai a siop goffi.

Goodsheds2

  

Ar bwys Rheilffordd Dwristiaid y Barri, caiff bloc preswyl pumllawr newydd hefyd ar y safle a gaiff ei

 weithredu gan Newydd Housing, gan gynnig 42 o gartrefi newydd gyda 23 ohonynt yn unedau cartref fforddiadwy.

 

Bydd yr ardal yn cynnwys lle digwyddiadau hyblyg i’w ddefnyddio fel sinema awyr agored, marchnad ffermwyr ac ardal bwyd stryd untro. 

 

LoftCo yw’r un cwmni a oedd yn gyfrifol am y gwaith llwyddiannus i adfywio’r Pumphouse gerllaw yn fwyty Hangfire Southern Kitchen, bar coffi Academi a busnesau eraill.

 

Mae’r Sied Nwyddau’n dyddio yn ôl i’r 1880au ac yn yr un modd â’r Pumphouse, mae yn yr Ardal Arloesi, ardal ddinesig 19 erw sy’n fenter ar y cyd rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru.

 

“Mae’r project adfywio dinesig hwn yn enghraifft wych o gydweithredu rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat, wedi’i hwyluso gan y datblygwr LoftCo, Cyngor Bro Morgannwg, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Dai Newydd.  Dyma gysyniad arbennig a fydd yn adfywio’r Sied Nwyddau, sy’n eiddo hanesyddol lleol pwysig a bydd yn creu swyddi, cartrefi a chyfleusterau hamdden mawr eu hangen er lles y gymuned ehangach.  Edrychwn yn fawr at weld y datblygiad yn dechrau ar y safle yn fuan.” - Y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg.

 

“Mae LoftCo wrth eu boddau bod y gwaith ar y Sied Nwyddau a’r tir cyfagos yn y Barri wedi’i gymeradwyo. Mewn cydweithrediad â Chyngor Bro Morgannwg, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Dai Newydd, bydd LoftCo yn creu stryd fawr ddinesig newydd gyntaf yr 21ain ganrif yn y DU. 

 

“Bydd cyfle aruthrol i fusnesau bach a chanolig dyfu y tu mewn i’r lle meithrin, bwytai, swyddfeydd ac ati, gyda’r cyfan y tu mewn i unedau fforddiadwy a chynaliadwy.

 

“Yn bwysicach cynllun yw e sydd wedi’i greu a’i ddatblygu wrth ystyried y gymuned ac mae’n cynnig marchnad ffermwyr barhaol, sgrim sinema, campfa awyr agored, theatr/clwb comedi ac ati a fydd oll yn cael eu defnyddio gan y gymuned leol wrth ymgysylltu’n llawn â LoftCo, y perchnogion, ac â’r cyhoedd ar bob adeg.

 

“Mae LoftCo yn falch bod y cynllun mewn sefyllfa gynaliadwy iawn gydag ôl carbon is a bod yr holl leoedd wedi’u meddiannu’n gyffredinol hyd yma gan weithredwyr lleol ar bob lefel  sy’n ystyried bod y Barri bellach yn gymdeithas ffyniannus, annibynnol lle mae’r gymuned wrth ei wraidd.” - Datblygwyr, Simon Baston.

 

“Rydym wrth ein boddau o ddarparu’r elfen lety yn y cynllun blaengar hwn. Mae’r datblygiad defnydd cymysg hwn yn cynnig rhywbeth i bawb, gyda chyfleoedd am waith, hamdden a lleoedd i fyw. Bydd yn helpu i barhau’r gwaith o drawsnewid Glannau’r Barri." - Paul Roberts, Prif Weithredwr Cymdeithas Dai Newydd.

 

“Mae'n bleser gan Lywodraeth Cymru fod yn rhan o'r ailddatblygiad hwn a fydd yn cynnig rhywbeth cyffrous i ganol tref y Barri.


“Rwy'n edrych ymlaen at ei weld yn tyfu ac yn ffynnu, gan greu swyddi, denu ymwelwyr a dod â mwy o fuddsoddiad i'r ardal leol.


“Bydd y prosiect gwych hwn yn elwa o £500,000 o'n Rhaglen Buddsoddi Adfywio wedi'i Dargedu, sy'n darparu £100m o gyllid cyfalaf ar draws y wlad dros dair blynedd i gefnogi prosiectau adfywio yng nghanol trefi ac ardaloedd cyfagos.” - Dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.