Cost of Living Support Icon

 

Gwasanaeth yn datgelu amgylchedd demensia-gyfeillgar newydd

Mae tîm gwasanaethau preswyl y Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chymdeithas Astudiaethau Demensia Prifysgol Caerwrangon i drawsffurfio cartrefi preswyl Southway a Thŷ Dewi Sant.

 

  • Dydd Iau, 18 Mis Gorffenaf 2019

    Bro Morgannwg



Cutting the ribbon banner sizeGwariwyd oddeutu £430,000 yn adfywio’r cartrefi, sydd wedi’u hymddangos yn ofodau gwell, sy’n fwy addas i'w preswylwyr henach sy'n byw gyda demensia.


Bu llythyr gan Arbenigwr Cysylltiol y brifysgol yn canmol staff yn Southway a Thŷ Dewi Sant am eu “dealltwriaeth o anghenion y preswylwyr, ac [eu] [h]ymroddiad i’r projectau, sydd wedi’u galluogi i’w cyflawni at safon uchel o fewn y gyllideb.”


Yn rhan o’r trawsffurfiad, mae’r waliau wedi’u hail-addurno gyda lliwiau niwtral, braf. Comisiynwyd ffotograffau o’r ardal leol i’w rhoi ar y waliau, ac mae eu fframiau hefyd wedi’u categoreiddio yn ôl lliw “yn creu golwg glân, modern a thaclus.”


Mae’r coridorau hefyd wedi’u categoreiddio yn ôl lliwiau ac mae gorchuddion drysau gwrth-dân, ynghyd â chanllawiau lliw. Mae drysau’r toiledau oll wedi’u peintio’n felyn, gan eu gwneud nhw’n hawdd i ddioddefwyr demensia eu hadnabod.


Mae edrychiad cyfoes yr adeilad hefyd yn cyd-fynd â lloriau newydd, modern sy’n addas ar gyfer symudedd.  


Mae cyfuniad y gwelliannau hyn wedi cynyddu annibyniaeth a gweithgarwch y preswylwyr, “ynghyd â newid naws yr adeilad yn gyfan gwbl.”

 

Mae’r cartrefi preswyl wedi cael mwy o gyllid, sydd wedi galluogi ystyried mwy o brojectau. 


Gobeithia Tŷ Dewi Sant wneud gwelliannau i’r goleuadau, ardal y gegin, y toiledau a’r awyru eleni. Mae Southway hefyd yn bwriadu gwella ystafelloedd gwely’r preswylwyr, ynghyd â gosod gazebo awyr

Colour coded corridor and toiletagored a lloriau sy’n addas ar gyfer bob tywydd.



“Mae’r adfywiad wedi bod yn newid positif iawn i’r cartrefi a’u preswylwyr. 


“Rwy’n falch o weld gwasanaethau preswyl y Fro yn cyflawni eu potensial o ran creu gofod sy’n addas i ddemensia, gan felly gefnogi annibyniaeth a lles y bobl yn eu gofal.” - Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd.