Cost of Living Support Icon

 

Tîm Mission Impossible Cynghrair Boccia’r Fro dal heb golli  

Bachodd tîm Mission Impossible ei drydydd teitl Cynghrair Boccia’r Fro yn olynol yn ddiweddar, sef cystadleuaeth sy’n cael ei threfnu gan dîm Datblygu Chwaraeon Cyngor Bro Morgannwg. Daeth y llwyddiant hwn ar ôl cyflawni tymor perffaith arall.

 

  • Dydd Mercher, 03 Mis Gorffenaf 2019

    Bro Morgannwg



Vale Boccia League Mission Impossible with awards and Cllr Ben Gray top banner width

 

Chwaraeon i bobl anabl yw Boccia lle mae chwaraewyr yn taflu peli â’r nod o’u glanio mor agos â phosibl at y bêl darged.

 

Mae chwe phêl coch neu las i bob ochr a chaiff pwyntiau eu casglu drwy gydol y gêm cyn cael tîm buddugol. 

 

Sefydlwyd Cynghrair Boccia’r Fro yn 2003. Caiff timau eu rhannu yn ddau bŵl, gyda’r timau ar y brig yn mynd ymlaen i’r rowndiau bwrw allan cyn dod o hyd i enillydd. 

 

Yn y rownd derfynol eleni, aeth tîm Mission Impossible Canolfan Adnoddau’r Hen Goleg ati i guro tîm y SEND Scorpions.

 

Yn casglu’r gwobrau ar y cyd â’r tîm buddugol oedd y Barry Bombers, a enillodd Gwobr Ysbryd Tîm Dean Evans am eu Hagwedd Ragorol. 

 

Casglodd Robert Williams o’r Sully Strickers Wobr Chwarae Teg Unigol Dilwyn Williams am ei berfformiadau ysbrydoledig. Bu Simon Jones, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabl Cymru ar gyfer y Fro yn canmol gwaith a llwyddiannau'r gynghrair. 

 

“Mae 15 mlynedd ers dechrau’r gynghrair hon ac mae’n mynd o nerth i nerth. Gwelwn chwaraewyr newydd yn cymryd rhan bob blwyddyn, yn ogystal â’r wynebau cyfarwydd.  

 

“Diolch yn fawr iawn i Ganolfan Adnoddau’r Hen Goleg, sy’n darparu’r safle bob blwyddyn, a diolch yn arbennig i Faye a Jeff am ddyfarnu’r gemau. Mae’n bleser bod yn rhan o dwrnamaint mor ardderchog â hwn.” - Simon Jones, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabl Cymru ar gyfer y Fro.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Chwaraeon Anabl ym Mro Morgannwg, cysylltwch â Simon.

 

  • 01446 704728