Cost of Living Support Icon

 

Buddsoddiad o £2.3m ar gyfer cymorth mabwysiadu yng Nghymru

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru (GMC) ac Adoption UK Cymru (AUK) fuddsoddiad o £2.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu yng Nghymru. 

  • Dydd Mawrth, 11 Mis Mehefin 2019

    Bro Morgannwg



 

national adoption service logo large

Mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn y Senedd a fynychwyd gan bobl allweddol o’r sector, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, yr ariannu a lansiodd yn swyddogol wasanaeth newydd ‘Cofrestr Fabwysiadu Cymru’.

 

Mae’r buddsoddiad o £2.3m i’w wario trwy bum rhanbarth GMC ledled Cymru i atgyfnerthu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, cynyddu lefelau staff a gwella ffyrdd o weithio mewn meysydd allweddol o gymorth i deuluoedd mabwysiadol.

 

Mae’r gofrestr newydd yn rhan allweddol o’r broses baru ar gyfer mabwysiadu nifer o blant a bydd yn cynorthwyo gyda dod o hyd i deulu’n fuan. Bydd y gofrestr, sydd bellach ar gyfer pob plentyn sydd â chynllun mabwysiadu yng Nghymru, nid dim ond y plant sydd wedi bod yn aros hiraf, yn rhoi mwy o ddweud i fabwysiadwyr yn y broses o ddod o hyd i deulu.

 

Meddai Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwraig Gweithrediadau y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol: “Mae’r gofrestr newydd yn cefnogi ein hymrwymiad i sicrhau’r broses baru a chanfod teulu gorau posibl ar gyfer plant a mabwysiadwyr. Mae’n wasanaeth dwyieithog sy’n ei wneud yn fwy cynhwysol ac mae hefyd yn cynnig mynediad â chymorth i fabwysiadwyr weld proffiliau plant a gwneud penderfyniadau, gyda chymorth eu Gweithiwr Cymdeithasol.”


Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Fel Llywodraeth rydym yn buddsoddi arian i atgyfnerthu gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru gan gydweithio gyda sefydliadau allweddol i ddefnyddio’r ariannu yma i ddarparu’r cymorth cywir i rai sy’n cael eu mabwysiadu a mabwysiadwyr. Yn ogystal â sicrhau y gellir dod o hyd i deuluoedd mabwysiadol yn gyflymach, bydd yr ariannu yma’n galluogi’r rhanbarthau mabwysiadu i wella ymhellach y ddarpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu yn eu hardal.”


Ychwanegodd Suzanne Griffiths: “Mae’r buddsoddiad hwn yn hwb mawr i’n gwaith i wella’r cymorth sydd ar gael i deuluoedd mabwysiadol ledled Cymru. Gwella gwasanaethau, ac yn enwedig wasanaethau cymorth, oedd un o’r heriau pennaf oedd yn wynebu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol pan gafodd ei sefydlu.   


“Rydym eisoes wedi gwneud llawer o welliannau trwy ein gwasanaethau llywodraeth leol rhanbarthol, ond bydd yr ariannu yma’n ein galluogi i sicrhau bod gwasanaethau gwell ar gael yn gyson i deuluoedd ledled Cymru yn ogystal â darparu, mewn partneriaeth â’r drydydd sector, wasanaethau newydd cyffrous fel TESSA a gwasanaeth newydd i blant a phobl ifanc.”  


Yn ogystal, defnyddiwyd rhan o’r buddsoddiad fel arian cyfatebol ar gyfer £250,000 ychwanegol oddi wrth Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a ddyfarnwyd i AUK i drosglwyddo eu rhaglen Gwasanaethau Cymorth Addysg Therapiwtig mewn Mabwysiadu (TESSA).

 

Dywedodd Ann Bell, Rheolwraig Datblygu, AUK Cymru: “Mae’n bleser gan Adoption UK weithio gyda’r Loteri Genedlaethol i ehangu’r rhaglen TESSA ar draws y Deyrnas Unedig. Mae TESSA yn sicrhau y caiff teulu mabwysiadol wasanaeth seicolegydd clinigol a mabwysiadwr profiadol, gan roi strategaethau ymdopi iddyn nhw yn ogystal â dealltwriaeth o sut y mae rhieni eraill wedi gweithio trwy heriau er mwyn helpu eu teulu i ffynnu.

 

“Mae ymyrraeth gynnar yn allweddol ar gyfer mabwysiadu’n llwyddiannus ac mae TESSA wedi bod yn hynod o effeithiol yng Ngogledd Iwerddon, gyda theuluoedd mabwysiadol yn sôn am y gwahaniaeth aruthrol y mae wedi ei olygu iddyn nhw. Bydd yr ariannu ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru yn cynyddu maint a chyrhaeddiad TESSA yng Nghymru yn sylweddol, gan sicrhau ei fod ar gael i fwy o lawer o deuluoedd mabwysiadol newydd.”

 

Os oes gennych ddiddordeb mabwysiadu ac os hoffech fwy o wybodaeth, ymwelwch â www.adopt4vvc.org/cy 

 

I bobl sy’n mabwysiadu ar hyn o bryd, cewch ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael i chi a’ch plentyn ar adoptionuk.org