Cyngor Bro Morgannwg yn sicrhau £1.8 miliwn ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi sicrhau dros £1.8 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth yn y Sir.
Bydd tri phroject diogelwch ar y ffyrdd yn derbyn cyfran o’r arian, un ar Cardiff Road yn Ninas Pwys, ac un arall o gylchdro Floodgate i Nash Corner yn Llandw, fydd yn gostwng cyflymdra a gwella diogelwch.
Mae grantiau wedi eu sicrhau ar gyfer gwelliannau i gyffyrdd, gan gynnwys gwell amodau croesi i gerddwyr, ar hyd llwybr sy’n cynnwys heolydd Porthceri, Romilly a Windsor.

Bydd arian hefyd yn mynd tuag at y posibilrwydd o wellau trafnidiaeth strategol o gyffordd 34 yr M4 i’r A48, ac ymchwilio i gyfleoedd teithio cynaliadwy rhwng Penarth a Morglawdd Caerdydd.
Mae’r cyllid hefyd yn golygu y gellir bwrw ymlaen gyda’r rhaglen i wella safleoedd bws drwy’r Fro gyfan, ac mae arian ar gael hefyd i weithio ar lwybrau teithio llesol, fydd yn hybu cerdded a beicio.
Ym ogystal â hyn, bydd cyllid ar gael i hyfforddi cerddwyr sy’n blant pump i saith oed yn y Fro, i’w helpu i fod yn ddiogel ar y ffyrdd, a hyfforddiant seiclo ar gyfer disgyblion blwyddyn chwech.
Bydd cyrsiau addysg cyn-gyrru ar gael i rai sydd dros 16 oed, gan roi cyfle iddyn nhw ddatblygu ffyrdd diogel o ymddwyn cyn mentro y tu ôl i’r llyw.
Bydd hyfforddiant ôl-brawf ar gyfer beicwyr modur yn cyflwyno lefel arall o ddiogelwch i rai sydd newydd basio’u prawf yn yr un modd ag y mae cynllun Pass Plus Cymru’n ei wneud ar gyfer gyrwyr newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth, “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu sicrhau’r cyllid hwn, fydd yn mynd tuag at nifer o gynlluniau cyffrous a gwerth chweil.
“Bydd yn ein galluogi i wella seilwaith trafnidiaeth presennol y Fro, ymchwilio i’r posibilrwydd o wella’r rhwydwaith ffyrdd a rhoi cyfle i ddefnyddwyr ein ffyrdd dderbyn hyfforddiant arbenigol.
“O ganlyniad, dylai fod gan y Fro system drafnidiaeth fwy diogel, mwy cysylltiedig a mwy dibynadwy.”