Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn rhagori yn yr archwiliad diweddaraf
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi’i chanmol mewn adroddiad ar archwiliad diweddar.

Sgoriodd yr ysgol yn wych mewn dau o’r pum maes a aseswyd – sy’n dangos perfformiad ac arfer cryf iawn wedi’u cynnal – ac yn dda yn y tri eraill.
Cyhoeddwyd y llynedd y byddai £21.5 miliwn yn cael ei wario ar adnewyddu’r ysgol ac adeiladu estyniad yn rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor.
Ac mae perfformiad yr ysgol yn yr ystafell ddosbarth wedi creu argraff yr un mor fawr y mae’r cyfleusterau newydd hynny yn addo ei chreu.
Yn yr adran Llesiant ac agweddau at ddysgu, dywedodd yr adroddiad: “Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos balchder eithriadol yn eu hysgol, ac yn datblygu’n ddysgwyr uchelgeisiol a hyderus. Mae gan bron pob un ohonynt agweddau cadarnhaol at fywyd ysgol. Maent yn ymfalchïo yn eu Cymreictod ac yn gwerthfawrogi’n fawr bod yn rhan o gymuned Gymraeg agos a gofalgar.
Cafwyd canmoliaeth debyg dan y pennawd: Gofal, cymorth ac arweiniad, gydag archwilwyr yn dweud: “Mae pwyslais ar ddinasyddion parchus, gofalgar a chyfrifol, yn ogystal â rhoi gofal a chymorth o’r ansawdd uchaf, yn treiddio trwy holl waith yr ysgol. Mae ymroddiad eithriadol staff i gefnogi llesiant disgyblion yn cyfrannu’n fuddiol ar ymddygiad gwych bron pob un o’r holl ddisgyblion, eu hymddygiad parchus a chroesawgar a’u hagweddau cadarnhaol at ddysgu.”
Dywedodd y Pennaeth, Hywel Price: “Rwyf wrth fy modd ag adroddiad Estyn sydd wedi amlygu’n gywir rhagoriaeth mewn llesiant, agweddau at ddysgu, gofal, cymorth ac arweiniad, a gwelliant parhaus mewn perfformiad dros y tair blynedd ddiwethaf.
“Hefyd mae argymhellion clir yn yr adroddiad o ran meysydd i’w gwella yn y dyfodol. Gall disgyblion, rhieni, staff a disgyblion fod yn falch iawn o adroddiad o’r fath, yn benodol fel ysgol 3-19 sydd newydd ei sefydlu.”
Dywedodd Lis Burnett, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio Cyngor Bro Morgannwg: “Dylai Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg fod yn falch o’r hyn sy’n adroddiad rhagorol ar archwiliad.
“Roedden ni eisoes yn gwybod fod gan yr ysgol ddyfodol addawol gan y bydd yn cael buddsoddiad sylweddol ar gyfer ymestyn a gwella cyfleusterau. Ond mae’r adroddiad archwiliad hwn yn dangos hefyd ddawn go iawn disgyblion a staff yr ysgol. Da iawn, dylech chi i gyd fod yn falch o’ch hunain.”