Cost of Living Support Icon

 

Arweinydd y Cyngor yn datgan newid yn y Cabinet

Mae Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd, John Thomas, wedi datgan dau newid yn ei Gabinet.

 

  • Dydd Mawrth, 19 Mis Mawrth 2019

    Bro Morgannwg



 

Gray, BenMae’r Cynghorydd Ben Gray yn cymryd lle’r Cynghorydd Gordon Kemp fel Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden a bydd y Cynghorydd Kathryn McCaffer yn cymryd lle’r Cynghorydd Geoff Cox fel Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas:

 

“Mae Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden yn bortffolio hynod bwysig a heriol.  Mae preswylwyr mwyaf agored i niwed yn y Fro yn dibynnu ar dîm gofal cymdeithasol a’n gwasanaethau hamdden i wella bywydau miloedd bob wythnos. Mae’r Cynghorydd Gray yn gennad dros y preswylwyr hyn gyda phrofiad mawr yn y maes ac yn rhywun sydd, yn ystod ei gyfnod fel cadeirydd y pwyllgor cynllunio, wedi profi y gall graffu ar faterion cymhleth a sensitif gydag arbenigrwydd. 

 

“Hoffwn i ddiolch i’r Cynghorydd Kemp am ei waith ers y daeth y weinyddiaeth hon wrth awenau’r Cyngor bron i ddwy flynedd yn ôl, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio ag ef yn y blynyddoedd a ddaw ac yntau’n parhau i gynrychioli ward y Rhws.”

 

Yn gadeirydd ar bwyllgor cynllunio’r Cyngor ar hyn o bryd, mae’r Cynghorydd Gray yn cynrychioli ward Plymouth ym Mhenarth. 

 

McCaffer, KathrynYn ail newid yn y Cabinet fydd y Cynghorydd McCaffer yn cymryd lle’r Cynghorydd Cox fel Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth.  Roedd y Cynghorydd Cox eisoes wedi penderfynu ildio ei sedd yn y Cabinet er mwyn gostwng ei lwyth gwaith ac mae nawr wedi gwneud y penderfyniad yn gynt o ganlyniad i gyfnod o salwch, sy’n gwella ar hyn o bryd. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas:

 

“Bu Geoff Cox yn was gwych i breswylwyr ei ward a Bro Morgannwg ar y cyfan. Mae’n byw yn y Bont Faen ers bron i hanner can mlynedd ac mae wedi gweithio’n ddiwyd yn cynrychioli’r gymuned ers ei ethol yn gyntaf yn 2001. Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi profi ei bod wir yn gennad dros y gymuned. Bydd y Cynghorydd Cox yn parhau i gynrychioli ward y Bont-faen ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef yn y dyfodol. 

 

“Er y byddwn yn gweld eisiau profiad Geoff yn fawr, mae’r Cynghorydd McCaffer yn gynghorydd eithriadol ymroddgar a gweithgar, a ddaw ag egni newydd i bortffolio sy’n cynnwys gwasanaethau mwyaf gweledol y Cyngor a’r rhai sy’n cyffwrdd bywydau rhan fwyaf y preswylwyr bob dydd.”

 

Ar hyn o bryd, mae’r Cynghorydd McCaffer yn gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Fyw’n Iach a Gofal Cymdeithasol ac mae hefyd yn cynrychioli ward Plymouth ym Mhenarth.