Cost of Living Support Icon

 

Arweinydd y Cyngor yn cyhoeddi datganiad cyllideb

Mae Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi datganiad cyn cyfarfod arbennig o’r cyngor ar 08 Mawrth. 

 

  • Dydd Llun, 04 Mis Mawrth 2019

    Bro Morgannwg



Dywedodd y Cynghorydd John Thomas: “Yn dilyn y bleidlais ar y gyllideb yr wythnos diwethaf cefais drafodaethau gydag aelodau fy ngrŵp fy hun, gan gynnwys y rhai hynny nad oedd yn cefnogi cynigion y gyllideb, yn ogystal â sawl cynghorydd arall.  

 

“Aeth y trafodaethau yn eu blaen yn y dyddiau wedi hynny ac rwy’n falch o allu dweud y caiff cynigion cyllideb newydd eu cyflwyno i gyfarfod arbennig o’r cyngor llawn ddydd Gwener. Bydd y rhain yn cynnwys mesurau newydd i fynd i’r afael â sawl mater a godwyd yng nghyfarfod llawn y cyngor ac wedi hynny, megis £100,000 yn ychwanegol i gefnogi gwasanaethau bws lleol a neilltuo arian ychwanegol i gefnogi defnydd cymunedol wrth ddatblygu eglwys St Paul ym Mhenarth. 

 

“Mae aelodau’r gwrthbleidiau hefyd wedi gofyn i adolygu sawl maes o ran gwaith y Cyngor. Mae hyn yn gyson â’r ysbryd agored a thryloyw yr wyf bob tro yn anelu ato wrth arwain y Cyngor ac felly mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn fwy na hapus i’w ystyried. 

 

“Rwy’n hynod falch ein bod wedi gallu llunio cyllideb ddiwygiedig sy’n diwallu anghenion y Fro gyfan drwy ystyried y safbwyntiau a fynegwyd yng nghyfarfod llawn y cyngor.  

 

“Os caiff ei chytuno ddydd Gwener, bydd y gyllideb newydd yn cynrychioli buddugoliaeth gwleidyddiaeth aeddfed ym Mro Morgannwg. Nid mater o daro bargeinion fu cyrraedd y cytundeb hwn, ond yn hytrach o fod yn ddigon aeddfed a chraff i ystyried anghenion yr holl gymunedau a wasanaethwn.  

 

“Mae hyn wedi digwydd heb unrhyw gost ychwanegol i breswylwyr lleol, gyda lefel arfaethedig y dreth gyngor yn aros yn ddigyfnewid.”