Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn galw am ymagwedd genedlaethol at gyfyngiadau cyflymder 20MYA

Mae aelod cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth, y Cyng. Geoff Cox, wedi ysgrifennu at y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates AC.

 

  • Dydd Llun, 04 Mis Mawrth 2019

    Bro Morgannwg



Mae'r llythyr yn nodi barn y Cyngor na ellir gwireddu cyfyngiadau cyflymder 20mya oni bai bod Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd ac yn gosod ymagwedd Cymru gyfan. 

 

Er y cydnabyddir bod cyflymder traffig yn cyfrannu’n fawr at ddifrifoldeb gwrthdrawiadau traffig ffordd, cyfyngedig yw’r dystiolaeth hyd yn hyn o ran unrhyw effaith sylweddol ar wrthdrawiadau neu anafiadau traffig ffordd gan gyfyngiadau 20MYA. 

 

Dywedodd y Cyng. Cox, “Gallaf weld manteision posibl cyfyngiadau cyflymder 20MYA ar gyfer problemau penodol sy’n ymwneud â chyflymder traffig. Rwy’n cydnabod bod nifer o grwpiau lleol a chenedlaethol sy’n pledio cyflwyno cyfyngiadau o’r fath ar raddfa sylweddol ledled Bro Morgannwg, nifer ohonynt rydw i wedi cyfarfod â nhw’n bersonol, ond rwyf hefyd yn ymwybodol bod nifer o drigolion yn y Fro sydd yn erbyn y syniad.

 

Mae newid y cyflymderau mewn llawer o ardaloedd yn y Fro o 30MYA i 20MYA, fel sy’n cael ei awgrymu gan rai grwpiau, yn cynrychioli penderfyniad mawr i’r Cyngor hwn ac rwy’n teimlo bod angen mewnbwn ac arweiniad ein Llywodraeth Genedlaethol o ran y penderfyniad hwn; oherwydd diffyg tystiolaeth sydd ar gael o’u llwyddiant hyd yn hyn, gwahaniaeth barn ymhlith ein trigolion, cost eu cyflwyno, y amcangyfrifir y bydd yn £700k ar gyfer y Cyngor hwn, a’r ffaith mai mater Cymru gyfan neu hyd yn oed mater y DG gyfan yw hwn.”

 

Mae nifer o barthau 20mya ym Mro Morgannwg, y rhoddwyd y rhan fwyaf ohonynt ar waith fel rhan o fenter i greu llwybrau diogelach i ysgolion.