Cost of Living Support Icon

 

Cyfyngiadau cŵn newydd ddim yn cynnwys meysydd chwaraeon â marciau 

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi penderfynu peidio â chynnwys meysydd chwaraeon â marciau yn y dulliau rheoli cŵn newydd ar ffurf Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus.

 

  • Dydd Mercher, 13 Mis Mawrth 2019

    Bro Morgannwg



Roedd y cynigion yn y Gorchymyn drafft yn seiliedig ar ddeddfau lleol cyfredol ond maent wedi eu haddasu yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus eang. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng mis Mehefin a mis Medi 2018 a chafwyd ateb sylweddol gan breswylwyr.


Mae addasiadau eraill i’r Gorchymyn yn cynnwys tynnu’r gwaharddiad tymhorol ar y traethau ym Mhenarth a thraeth Knap. Bydd gofyniad i waredu baw cŵn yn dal yn berthnasol i’r meysydd chwaraeon a chaiff hyn ei fonitro’n agos. Cyflogeion y Cyngor fydd yn gorfodi.


Y dulliau rheoli eraill fydd gwaharddiad rhwng holl ardaloedd chwarae plant, cyfyngiadau cŵn ar dennyn trwy’r flwyddyn ar y promenâd yn Whitmore Bay, Glan y Môr a Phier Penarth.

 

 

Dwedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor, “Fel rhan o’r broses ymgynghori fe wnes i gwrdd â nifer o berchnogion cŵn ac roedd yn glir iawn bod pob un ohonynt yn rhannu ein safbwynt nad yw bod yn berchennog ci anghyfrifol yn dderbyniol.  Fodd bynnag, maen nhw'n bryderus y dylai'r lefelau rheoli fod yn gymesur â'r broblem ac na ddylent effeithio’n negyddol ar y mwyafrif o berchnogion cŵn sy’n gyfrifol.  


“Roedd hi’n braf clywed bod nifer ohonynt yn fodlon cynorthwyo’r Cyngor yn ein hymdrechion i newid ymddygiad perchnogion cŵn anghyfrifol.  Drwy gyflwyno’r rheolaethau hyn rwyf wedi derbyn eu safbwyntiau a safbwyntiau’r rheiny sy’n cytuno a cheisio dod o hyd i ateb sy'n caniatáu i bawb fwynhau'r traethau a'r mannau agored godidog sydd gan y Fro i'w cynnig, p'un a ydynt yn berchen ar gi neu beidio". 

 

Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried yr Hysbysiad Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar 18 Mawrth a bydd gofyn iddo gydsynio mewn egwyddor. Gobeithir y cytunir ar yr hysbysiad olaf mewn cyfarfod y Cyngor llawn ar 1 Mai.


Mae manylion llawn y cynigion sydd yn y Gorchymyn ar gael i’w gweld ar wefan y Cyngor:

www.valeofglamorgan.gov.uk/PSPODogs