Cost of Living Support Icon

 

Mae Mary Poppins, Lindysn llwglyd a dewin yn Cerdded i mewn i Lyfrgel y Barri . . .

Daeth tyrfa o ddarllenwyr ifanc brwd i’r Barri yn ddiweddar, pan groesawodd digwyddiad Dydd Llyfr y Byd y llyfrgell nifer o gymeriadau diddorol i Sgwâr y Brenin.

 

  • Dydd Llun, 11 Mis Mawrth 2019

    Bro Morgannwg



Lacey, Mary PoppinsGwahoddwyd preswylwyr i’r gystadleuaeth gwisg ffansi a chymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau a ysbrydolwyd gan lenyddiaeth plant.


Gan ddefnyddio eu hoff lyfrau ar gyfer ysbrydoliaeth, gofynnwyd i’r darllenwyr ifanc ddefnyddio’u creadigrwydd a dylunio eu cloriau llyfr eu hunain. 


Yna, cafwyd cwis helfa drysor y llyfrgell pan aeth y darllenwyr ifanc ar gyrch am atebion ar thema llyfrau, ynghudd ymhlith y silffoedd llyfrau.


Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant: “Mae gennym gyfleusterau gwych yn Llyfrgell y Barri, ac roedd yn wych gweld a chlywed am eu digwyddiad diweddar ar gyfer Dydd Llyfr y Byd.


“Mae staff y llyfrgell yn gweithio’n galed iawn i ddenu ein preswylwyr ifanc ac ysbrydoli rhagor o bobl ifanc i ddarllen, felly roedd yn galonogol gweld cynifer o blant yn cymryd rhan yn y digwyddiad.”


Tua diwedd y noson, cyflwynodd staff y llyfrgell wobrau i enillwyr cystadlaethau’r “Wisg Orau” a “Dylunio Clawr Llyfr”.


Joshua gafodd y wobr am y wisg orau, yn ei wisg y Lindysyn Llwglyd a daeth Lacey yn ail fel Mary Poppins.


Noah enillodd y gystadleuaeth Dylunio Clawr Llyfr i blant 3-6 oed ac enillodd Sebastian y categori oedran 7+. 


Mae’r llyfrgell nawr yn paratoi at gyfres o ddigwyddiadau trwy’r gwanwyn, yn cynnwys ystod o ddigwyddiadau crefft ar thema’r Pasg.