Cost of Living Support Icon

 

Taith Fws Seiberddiogelwch Cymru

Mae’r Taith Fws Seiberddiogelwch Cymru yn dod i’r Barri ar ddydd Llun 25 Mawrth.

  • Dydd Iau, 07 Mis Mawrth 2019

    Bro Morgannwg


Cyber Bus 

Bydd pwysigrwydd seiberddiogelwch a'r bygythiadau a wynebir gan fusnesau ac unigolion yn cael ei amlygu ym mis Mawrth pan fydd bws gwybodaeth seiber pwrpasol yn cychwyn ar daith i bob un o'r 22 awdurdod unedol yng Nghymru.

 

Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i reoli gan yr Tarian, Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol (ROCU) yn Ne Cymru, ynghyd â ROCU Gogledd Orllewin Lloegr, a bydd yn teithio ledled Cymru cyn dychwelyd i'r brifddinas ar 29 Mawrth.

 

Nod y fenter yw codi ymwybyddiaeth unigolion, grwpiau a busnesau o seiberddiogelwch, gan gyflwyno'r negeseuon allweddol yn unol â'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) a Strategaeth Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU.

 

Taith Fws Seiberddiogelwch Cymru

Dydd Llun 25 Mawrth 2019, 12:00pm – 8:00pm

King Square, Y Barri

Ymhlith y staff ar y bws bydd Swyddogion Diogelu Seiber dwyieithog yr heddlu ac arbenigwyr eraill ym maes seiberddiogelwch, yn ogystal â phartneriaid, megis Get Safe Online.  

Cyflwyniad Ymwybyddiaeth Seiber-Ddiogelwch Tarian

Dydd Llun 25 Mawrth 2019, 1.00pm and 5.00pm

Llyfrgell y Barri

Os ydych yn teimlo y byddech chi neu eich busnes yn elwa o gael mewnbwn i’r ymosodiadau a’r tueddiadau seibr-drosedd diweddaraf yng Nghymru a sut i osgoi a lliniaru yn eu herbyn i barhau i weithredu mewn eco-system ffyniannus cofrestrwch ar gyfer yr amseroedd mwyaf addas.

 

Am ddim 

 

Cofrestrwch ar gyfer Eventbrite

 

Yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd gan Action Fraud yn ddiweddar, mae dros £190,000 yn cael ei golli bob dydd gan ddioddefwyr seiberdroseddu yn y DU. Cafodd dros cyfrifon e-bost a chyfryngau cymdeithasol mwy nad un rhan o dair o ddioddefwyr eu hacio yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

Dywed Action Fraud hefyd y rhoddwyd gwybod i'r heddlu bod £34.6m wedi cael ei ddwyn gan ddioddefwyr rhwng mis Ebrill a mis Medi 2018, 24% yn fwy na'r chwe mis blaenorol. 

 

Dengys y ffigurau bod 13,357 o bobl yn y DU wedi rhoi gwybod i'r heddlu am achosion o seiberdroseddu dros chwe mis, a bod cyfrifon e-bost a chyfryngau cymdeithasol dros 5,000 o’r bobl hynny wedi cael eu hacio, gan olygu colled o £14.8m i’r dioddefwyr

 

Taith Fws Seiberddiogelwch Cymru