Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn lansio cyrsiau sgiliau digidol newydd ar gyfer y Fro wledig

Caiff blogwyr newydd, dylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a dylunwyr gwe yn y Fro wledig fireinio eu sgiliau’r haf hwn mewn cyfres o gyrsiau a gaiff eu lansio’r wythnos hon gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Iau, 09 Mis Mai 2019

    Bro Morgannwg



IMG_1694Bydd cyrsiau ar gynnig hefyd i gynorthwyo busnesau bychain, gan gynnwys sesiynau ar ddefnyddio Google Ads, teclynnau e-fasnach a LinkedIn, yn ogystal ag eraill a ddyluniwyd i helpu pobl i ddod i ddeall rhai o’r manteision y gall y we eu cynnig. 

 

Bydd yr holl gyrsiau’n digwydd ym misoedd Mai, Mehefin a Gorffennaf. Mae’r holl breswylwyr sy’n byw yn y wlad ym Mro Morgannwg neu’r rhai sy’n gweithio i sefydliadau’r trydydd sector sydd o fudd i’r Fro yn gymwys am bris wedi cymhorthdal mawr. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: “Mae’r Cyngor yn cydnabod bod gan dechnoleg ddigidol botensial i drawsnewid ardaloedd fel y Fro wledig a’r dyfodol ar gyfer pobl sy’n byw a chynnal busnes yno. 

 

“Mae’r cyrsiau hyn wedi eu dylunio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r rhai sy’n byw yn y Fro wledig a sefydliadau’r trydydd sector sy’n gweithio yn y Fro am y datblygiadau diweddaraf yn nhechnoleg ddigidol, ar gyfer y byd busnes a bywyd bob dydd.

 

“Mae’r Fro wledig yn gartref i bob math o bobl ac rydym wedi ceisio sicrhau bod rhywbeth i bawb. Gall y rhai sy’n hunan-gyflogi neu’n rhedeg busnes bychan roi hwb i’w cyfleoedd trwy ddysgu rhagor am farchnata ddigidol a chynnal busnes ar-lein. A chaiff y rhai sy’n llai cyfarwydd â sut mae defnyddio’r we yn eu bywydau personol fanteisio gan sesiynau ar sut mae arbed arian trwy gymharu prisiau ar-lein.

 

“Rydym yn disgwyl y bydd y galw’n fawr felly bwciwch yn fuan i osgoi siom.”

 

Mae’r cyrsiau’n rhedeg o 1 Mai i 11 Gorffennaf 2019, yn naill ai sesiwn fer teirawr, yn sesiwn estynedig 6.5 awr neu yn achos y cwrs Adeiladu’ch Gwefan eich Hun, yn gyfres o dair sesiwn teirawr.IMG_1720 ProMo Cymru fydd yn cyflwyno pob cwrs.

 

Cewch ragor o fanylion a dolenni er mwyn archebu ar-lein yn: https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/working/Rural-Communities/Vale-Training-Digital-Skills.aspx.

 

Fel arall gall unrhyw un â diddordeb ffonio 01446 704754 neu e-bostio create@valeofglamorgan.gov.uk am ragor o wybodaeth.