Cost of Living Support Icon

 

Arweinydd y Cyngor yn mynd i ddigwyddiad lansio ar gyfer cynlluniau buddlsoddi diogelwch ar y ffyrdd 

Aeth y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, i ymweld ag Ysgol High Street yn Y Barri ar gyfer lansiad cynllun diogelwch ar y ffyrdd fydd yn dod â buddsoddiad i lawer o brojectau ledled y Sir.

  • Dydd Llun, 13 Mis Mai 2019

    Bro Morgannwg



Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi’i sicrhau ar gyfer mentrau sy’n ymwneud â gwelliannau diogelwch i lwybrau penodol a gwella diogelwch ymysg defnyddwyr y ffordd drwy hyfforddiant.

 

Bydd cyfanswm o wyth o fentrau’n cael eu lansio yn y Fro. Mae’r rhain yn cynnwys dau project gwelliannau ffordd yn y Barri ac yn un Llandŵ, ynghyd â chyrsiau hyfforddi ledled y Fro i yrw

WNS_090519_Minister_Cycle_20 (002)

yr, beicwyr a beicwyr modur.

 

Bydd cyfyngiad cyflymder Ffordd Caerdydd yn y Barri, rhwng Green Lane a chyffordd Biglis yn cael ei leihau i 40mya,caiff arwyddion rhybuddion cyflymder a weithredir gan gerbydau eu gosod ynghyd ag wynebau ffrithiant uchel yn cael eu cyflwyno ar droeon y ffordd.

 

Bydd gwaith ar y ffordd o Gyffordd Floodgate hyd at Nash Corner yn Llandŵ’n cynnwys ehangu ymyl y marciau lôn gerbydau a chreu ardal ganolog 750 metr â llinellau arni.

 

Yn ogystal â hyn, bydd llwybr yn y Barri sy’n mynd heibio i ffyrdd Porthceri, Romilly a Windsor ac sy’n pasio sawl ysgol yn elwa ar gyfleoedd croesfan i gerddwyr gwell.

 

Bydd hyfforddiant cerddwyr ifanc hefyd yn cael ei gyflwyno i blant rhwng 5 a 7 oed yn y Fro, gan eu helpu nhw i gadw’n ddiogel o amgylch y ffyrdd, a hyfforddiant beicio i ddisgyblion blwyddyn 6.

 

Bydd cyrsiau addysg cyn gyrru ar gael i bobl ifanc dros 16 oed, yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu ymddygiad diogel cyn dechrau gyrru.

 

WNS_090519_Minister_Cycle_28

Mae’r hyfforddiant beic modur ar ôl prawf yn ychwanegu lefel arall o ddiogelwch i’r rheiny sydd wedi pasio’r prawf yn ddiweddar, yn yr un modd â chynllun Pass Plus Cymru ar gyfer gyrwyr newydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae hon yn fenter wych fydd yn dod â buddion ar draws y Fro, gan wneud llwybrau teithio yn y Sir yn fwy diogel.

 

“Rydym wedi llwyddo i gael cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer ystod o brojectau, gyda’r nod o godi safonau diogelwch, boed hynny ar lwybrau penodol neu ymysg defnyddwyr y ffordd.

 

“Mae cyrsiau hyfforddiant ar gael i yrwyr, beicwyr a beicwyr modur ynghyd â gwneud gwelliannau i rai rhannau o’r briffordd.”