Cost of Living Support Icon

 

Dweud eich dweud!

Bydd Diwrnod Etholiadau Senedd Ewrop ddydd Iau 23 Mai.

  • Dydd Mercher, 01 Mis Mai 2019

    Bro Morgannwg



Mae gan breswylwyr hyd at ddydd Mawrth 07 Mai i gofrestru i bleidleisio os nad ydynt eisoes ar y Gofrestr Etholwyr. Y dyddiad cau i wneud cais ar gyfer pleidlais drwy'r post yw dydd Mercher 08 Mai (5.00pm) ac ar gyfer pleidleisiau drwy ddirprwy dydd Mercher 15 Mai (5.00pm).

 

Dywedodd Debbie Marles, y Swyddog Canlyniadau Lleol: “Mae’n hollbwysig bod pobl yn cael y cyfle i gymryd rhan yn yr etholiad hwn, ac yn osgoi colli allan oherwydd nad ydynt wedi cofrestru. Mae ein Tîm Gwasanaethau Etholiadol profiadol ar gael i ddarparu cyngor a gwybodaeth i bleidleiswyr.

 

“Ni ddylai pobl gymryd arnynt y gallent bleidleisio oherwydd eu bod wedi cofrestru i bethau eraill megis Treth y Cyngor. Os oes amheuaeth, dylai preswylwyr gysylltu â’n Tîm Gwasanaethau Etholiadol i wirio a ydynt wedi cofrestru i bleidleisio.”

 

Dim ond ychydig o funudau y mae'n cymryd: cofrestrwch ar-lein https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu ffoniwch y Tîm Gwasanaethau Etholiadol ar 01446 729552.

 

Mae rhestr lawn o ymgeiswyr ar gael ar wefan Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Cymru: https://www.sir-benfro.gov.uk/etholiadau-senedd-ewrop