Cost of Living Support Icon

 

Ffynhonnau yfed modern i gael eu gosod ledled y Fro 

Dros yr wythnosau i ddod, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio i osod ffynhonnau yfed ar safleoedd amrywiol poblogaidd ledled y Fro.

  • Dydd Mercher, 01 Mis Mai 2019

    Bro Morgannwg

      

Dog-drinking-from-water-fountainYn rhan o’r penderfyniad caiff £40,000 ei fuddsoddi yn yr unedau a’r gwaith o’u gosod. Mae hyn o ganlyniad i gais i weld gwelliannau i wasanaethau'r gymuned ac ardaloedd y gymuned.

 

Mae un o’r mentrau mwyaf wedi cynnwys lleihau’r defnydd o boteli plastig untro, yn benodol dros fisoedd yr haf. Bydd y gorsafoedd llenwi poteli am ddim yn cynnig dewis amgen i brynu dŵr potel, dewis sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd a’r economi.

 

Mae hefyd yn rhan o welliannau’r Cyngor i fannau agored. Mae llawer o’r ardaloedd wedi’u huwchraddio’n ddiweddar, gyda rhai ohonynt bellach yn cynnig cyfleusterau chwaraeon, campfa a chwarae awyr agored. 

 

Mae’r Cyngor yn gobeithio y bydd y ffynhonnau yn dod â’r lleoedd ynghyd ac yn annog ymwelwyr i yfed digon o ddŵr yn ystod eu gweithgareddau.

 

Caiff 14 uned eu gosod, naill ai ar eu pennau eu hunain neu mewn parau yn y safleoedd canlynol:

  • Y Barri - Parc Canolog, Gerddi’r Cnap, Parc Romilly, Gerddi Gladstone Uchaf, Promenâd Ynys y Barri.

  • Penarth – Parc Sglefrio Newydd Canolfan Hamdden Cogan, Llwybr y Clogwyn, Glan y Môr Penarth.

  • Sain Tathan - Lougher Place.

  • Dinas Powys – The Murch neu Gaeau Chwarae Bryn y Don.

  • Aberogwr – Prif Faes Parcio.

Mae’r ardaloedd wedi’u dewis oherwydd y nifer uchel y bobl sy’n ymweld â nhw.

 

 

Yn 2014, cafodd ffynhonnau o’r un fath eu gosod ym Mharc Belle Vue. Nhw oedd y cyntaf o’u math yn y DU, gyda ffynnon â thair lefel a chyfleuster llenwi poteli, mynediad i bobl anabl ac addasiadau i gŵn.

 

Three tiered drinking fountain sample

Pum mlynedd yn ddiweddarach ac mae’r ffynhonnau wedi’u cynnal a’u cadw’n dda ac ystyrir eu bod yn llwyddiant digamsyniol.

 

Mae’r unedau blaenllaw hyn yn eithriadol wydn a thrwy eu cynnal a’u cadw’n ddiogel disgwylir iddynt bara am 25-30 o flynyddoedd.

 

Dywedodd Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai: “Dyma fenter wych i sicrhau bod pobl o bob oedran yn yfed digon o ddŵr dros yr haf, yn enwedig mewn ardaloedd lle maent yn cael eu hannog i fod yn actif.

 

“Byddai’ hawdd anghofio cynnig dŵr glan, cyfleus ac am ddim, ac mae’n braf gweld Cyngor Bro Morgannwg yn braenaru’r tir er mwyn i drigolion fyw bywydau iach ym mhob agwedd.”

 

Caiff sawl uned eu gosod yn yr wythnosau i ddod ac mae eraill wedi’u cadw ar gyfer projectau a gaiff eu cwblhau’n hwyrach eleni.