Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn lansio gwasanaeth cynghori i gyn-filwyr

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio gwasanaeth newydd yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ddiduedd am ddim i aelodau’r Lluoedd Arfog yn y Sir.

  • Dydd Mercher, 08 Mis Mai 2019

    Bro Morgannwg



Gall y rhai hynny sydd wedi gwasanaethu, neu sydd wrthi’n gwneud, gael gafael ar ganllawiau a chymorth gan swyddog arbennig penodedig ar faterion fel tai, cyflogaeth, cyllid, budd-daliadau, gofal cymdeithasol a mwy.

 

Mae’r Gwasanaeth Cynghori i Gyn-filwyr hefyd yn helpu i nodi pa rai o’r nifer o sefydliadau sy’n cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog allai roi’r cymorth iawn ymhob achos unigol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Janice Charles, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog i Gyngor Bro Morgannwg: “Mae cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog wedi aberthu cymaint i helpu i amddiffyn eu cymunedau, ac mae’n bwysig ein bod yn gwneud popeth allwn ni i’w helpu mewn unrhyw ffordd sy’n bosib.

 

Mae’r gwasanaeth penodol hwn yn helpu cyn-aelodau o’r lluoedd arfog, neu’r rhai hynny sy’n dal i wasanaethu, mewn amryw o feysydd - o gyllid ac iechyd i nifer o faterion eraill. 

 

“Rwy’n falch o fod yn Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog i’r Fro, ac rwy’n cynrychioli rhai o’r bobl fwyaf gwerthfawr yn ein cymuned. 

 

“Mae addasu i fywyd yn ôl yn y gymuned ar ôl gwasanaethau yn gallu bod yn anodd, a nod y fenter hon yw gwneud y broses honno mor hawdd â phosibl.”

 

Yn ddiweddar, bu i Ymgynghorydd y Lluoedd Arfog yn y Cyngor, Abigail Warburton helpu i roi cartref i un cyn-filwr oedd wedi bod yn byw yn ei gar.

 

Cafodd ei lywio drwy’r broses o wneud cais am dŷ Cyngor a chafodd gynnig cartref maes o law.

 

Rhoddwyd ynddo wely, soffa, bwrdd bwyd a chadeiriau, stereo a mwy gan deulu cyn-filwr arall, Thomas Brinley Evans, oedd wedi marw’n ddiweddar.

 

Rhoddwyd eitemau eraill, gan gynnwys peiriant golchi ac offer glanhau, gan Caroline a Helena Morgan-Phillips o Poppylicious. Rhoddodd Jan, sy’n gydlynydd Siop Gymunedol Cyfeillion Rotari y Rhondda, ddodrefn a pheth llestri, tra bod Richard Jones Carpets o’r Barri wedi cynnig carped am ddim ar ôl clywed am dynged y cyn-filwr. Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol hefyd wedi cynnig cefnogaeth ac yn parhau i gadw mewn cysylltiad drwy gyfrwng eu project cymorth cymunedol.

 

Dywedodd y cyn-filwr: “Hoffwn ddweud diolch yn fawr yn arbennig i Abi Warburton. Mae’r fenyw hon wedi bod yn arbennig a heb ei chymorth a’i charedigrwydd hi byddwn i dal yn byw yn fy nghar. Roedd y teimlad cynnes hwnnw oedd gen i yn gwybod ei bod yn eiriol ar fy rhan y tu ôl i’r llenni, yn wych. Roedd hi’n fy ffonio unwaith yr wythnos hyd yn oed pan nad oedd newyddion da, oedd yn gefn i mi. Mae angen mwy o Abi Warburtons ar gymuned y Lluoedd Arfog yn fy marn i, gan fod yr empathi a’r brwdfrydedd sydd ganddi yn ail i neb.”

 

Abi-Warburton-at-drop-in-event

Gellir cysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori i Gyn-filwyr o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 5.00pm drwy ffonio 07725 704655 neu drwy e-bostio veteranservice@valeofglamorgan.gov.uk

 

Cynhelir sesiynau galw-heibio hefyd mewn llyfrgelloedd lleol yn y Barri, Penarth, Llanilltud Fawr, Y Bont-faen, Sili, Gwenfô, Sain Tathan, Y Rhws a Dinas Powys.