Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal cynllun cymdeithasu sy'n pontio'r cenedlaethau

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cynnal cynllun lle mae plant dan 5 yn cwrdd â phobl hŷn mewn ymgais i ddod â chenedlaethau ynghyd.

  • Dydd Mawrth, 21 Mis Mai 2019

    Bro Morgannwg



Wrth i ni nodi’r Wythnos Gweithredu ar Ddemensia, mae’r sesiynau’n annog pobl sy’n byw gyda’r cyflwr i ryngweithio a siarad am eu profiadau.

 

Mae’r manteision eraill yn cynnwys adeiladu cyfeillgarwch sy’n pontio’r cenedlaethau, gwella agweddau tuag at bobl hŷn a lleihau oedraniaeth.

 

Wedi’i redeg gan y gweithiwr gofal plant proffesiynol Virginia Bourne, sydd â dros 20 mlynedd o brofiad yn y maes, mae’r Grŵp Pontio Blagur a Blodau yn Gwmni Buddiannau Cymunedol nid-er-elw sy’n rhedeg sesiynau lle mae plant cyn ysgol a’u rhieni yn ymweld â chartrefi gofal a chanolfannau dydd.

 

Mae un ar waith yn Llys Morel ym Mhenarth ar ddydd Iau ac un arall yng Nghanolfan Ddydd Tŷ Rondel y Cyngor yn y Barri ar ddydd Mercher.

 

Mae’r sesiynau’n para awr a bob amser ar yr un amser – mae’r cysondeb yn helpu plant a’r trigolion.

 

“Fe ddechreues i’r sesiynau hyn ym mis Medi oherwydd dwi’n frwd iawn dros waith sy’n pontio’r cenedlaethau a’r manteision a ddaw i gyfranogwyr hen ac ifanc,” dywedodd Mrs Bourne.

 

“Ro’n i eisiau helpu i redeg grŵp sy’n cynnwys y ddau grŵp o bobl, a dyma pam ‘nes i sefydlu Cwmni Buddiannau Cymundol. 

 

“Yn yr amser byr dwi wedi bod yn rhedeg sesiynau, mae’r grwpiau wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae wedi bod yn hyfryd gwylio’r trigolion a’r plant yn bondio. Mae’r rhieni wedi ymateb yn dda iawn i’r sesiynau hefyd.”

 

budsandblooms

Mae’r sesiynau’n rhedeg mewn blociau o fis ac mae gwahanol thema i bob un. Maen nhw’n cynnwys canu, pypedau, offerynnau, straeon, massage, gemau a mwy.

 

Mae eitemau yn cael eu rhoi i’r preswylwyr i’w helpu i deimlo’n rhan o’r sesiwn, ac maent yn cael eu pasio o gwmpas i annog mwy o ryngweithio.

 

I gael rhagor o wybodaeth neu i ymuno â grŵp, cysylltwch â Virginia Bourne drwy’r Grŵp Pontio Blagur a Blodau ar Facebook neu e-bostiwch virginia@budsandbloomswales.

 

Gall busnesau lleol hefyd helpu drwy ariannu rhagor o offer.