Cost of Living Support Icon

 

Dathliadau’r Nadolig yn dechrau ar y Stryd Fawr

Bydd dathliadau'r Nadolig yn dechrau â bang ar y Stryd Fawr penwythnos yma wrth i’r bocsiwr o’r Barri, Lee Selby gynnau’r goleuadau.

 

  • Dydd Mercher, 27 Mis Tachwedd 2019

    Bro Morgannwg



Bydd y bocsiwr pwysau ysgafn lleol yn gwneud y gwaith pwysig am 7pm ddydd Gwener, ar ôl prynhawn o hwyl i’r teulu i gyd.

 

O 4pm bydd adloniant stryd, gan gynnwys bandiau a pherfformwyr cerddorol eraill ar y llwyfan, a bydd Siôn Corn yn ymweld â ni ar ei sled hefyd.

 

Mae’r Stryd Fawr wedi’i chanmol fel un o’r ardaloedd gorau yng ngwledydd Prydain ar gyfer siopau annibynnol - gan ddod yn y 5 uchaf - gyda tua 91 y cant o’r manwerthwyr yn y categori hwn.

 

“Gwnaethom fwynhau digwyddiad Nadolig gwych yn Heol Holltwn y penwythnos diwethaf. Nawr mae’r ffocws yn symud i’r Stryd Fawr ac achlysur sy’n addo bod llawn cystal.

 

“Yn ogystal â cherddoriaeth fyw a Siôn Corn, bydd Lee Selby, un o feibion y Barri, yn cynnau’r goleuadau. Ry’ ni’n gobeithio gweld y dyrfa’n heidio i fwynhau'r siopau unigryw ac arbennig sydd gennym yn y rhan hon o’r dref.” - Phil Chappell, Rheolwr Gweithredol dros Adfywio a Chynllunio, Cyngor Bro Morgannwg.

Daw’r digwyddiad hwn saith diwrnod ar ôl Penwythnos Mawr Nadolig y Barri, pan gyneuwyd y goleuadau gan Ruth Jones, neu Nessa Shanessa Jenkins o Gavin and Stacey y BBC.

 

Roedd yna Farchnad Nadolig â 40 o stondinau hefyd, ynghyd ag adloniant, a dangoswyd Home Alone yn yr awyr agored yn y Parc Canolog.

 

Roedd digwyddiad Nadolig y Bont-faen y penwythnos diwethaf hefyd, gyda marchnad Nadolig dridiau o hyd (o ddydd Gwener i ddydd Sul) ym maes parcio tafarn y Duke of Wellington, a chynhaliwyd yr Orymdaith Geirw flynyddol ddydd Sul.

 

Ddydd Sadwrn, bydd gorymdaith lusernau a marchnad Nadolig yn arwain at gynnau goleuadau’r Nadolig am 6pm yn Llanilltud Fawr.

 

Bydd Stryd Fawr y Barri hefyd yn cynnal cyfres o nosweithiau agored hwyr wrth i’r Nadolig nesáu - un cyfle olaf i ddod o hyd i’r anrheg perffaith!