Cost of Living Support Icon

 

Cwmni bwyd a'i gyfarwyddwyr yn cael dirwy fawr am dorri cyfreithiau hylendid bwyd

Mae dau gyfarwyddwr y bwyty Mughal Emperor yn y Bont-faen wedi cael dirwyon mawr am droseddau hylendid wedi cael eu herlyn ar ran Cyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Mawrth, 19 Mis Tachwedd 2019

    Bro Morgannwg



Mughal Emperor banner sizeCafodd Mamun Miah ac Asad Miah ddirwy yr un o £2,766, gorchmynnwyd iddynt dalu costau o £500 a thâl dioddefwr o £138 yn Llys yr Ynadon Caerdydd ar ôl peidio â chydymffurfio â dau rybudd gwella a gyhoeddwyd y llynedd. 


Hefyd, cafodd eu cwmni ddirwy o £10,000, a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £1,175 gyda tâl dioddefwr o £170.


Roedd hynny ar ôl archwiliad gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (SRS), sy’n gorfodi rheoliadau iechyd yr amgylchedd ym mhob ardal Awdurdod Lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a’r Fro

 

Ym mis Mehefin 2018, nododd swyddogion y SRS nifer o doriadau yn y bwyty, gan gynnwys offer brwnt, croeshalogi bwyd amrwd ac wedi’i goginio a hyfforddiant staff annigonol, a arweiniodd at roi sgôr hylendid bwyd o ddau.


Yn ystod ymweliad arall i weld a fu gwelliannau, gwelwyd nad oedd y cwmni wedi mynd i’r afael â thair mater, a mis arall yn hwyrach, er yr oedd y mater ynghylch hyfforddiant staff dan reolaeth, nid oedd y ddwy fater arall wedi gwella.

“Rwy’n gobeithio bod yr achos hwn yn anfon neges bwysig at y rhai sy’n gweithredu busnesau bwyd nad yw cydymffurfio â safonau hylendid yn opsiynol.

 

“Rhoddir argymhellion i wella am resymau da iawn, yn bennaf er mwyn diogelu iechyd cwsmeriaid.

 

“Gallai canlyniadau’r toriadau hyn fod wedi bod yn ddifrifol ac arwain at wenyn bwyd. Erlyniad yw’r dewis olaf bob amser, ond fyddwn ni ddim yn oedi cyn erlyn os yw busnesau’n methu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau ein swyddogion.


“Rhaid i bobl yn y diwydiant bwyd gydnabod eu cyfrifoldeb i gwsmeriaid wrth baratoi bwyd a chymryd cyngor gan y rheiny mae eu swydd yn cynnwys diogelu’r cyhoedd rhag salwch niweidiol o fwyd.” - Cynghorydd Edward Williams, Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoliadol a Chynllunio, Cyngor Bro Morgannwg.