Cost of Living Support Icon

 

Bydd trefi'r Fro yn disgleirio'r Nadolig hwn

Bydd pob un o’r pedwar canol tref yn y Fro yn disgleirio tymor y Nadolig hwn diolch i gyllid ychwanegol gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Iau, 14 Mis Tachwedd 2019

    Bro Morgannwg



Barry lights switch on banner sizeNod y cyllid a roddir i bob un o’r pedwar Cyngor Tref yw cefnogi projectau sy’n hybu’r economi.  Bydd mwy o heriau i’r Stryd Fawr yn y Fro ac ar draws y DU yn sgil y gystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein a’r costau uwch.


Mae’r Nadolig yn adeg hollbwysig i’r diwydiant manwerthu, gyda thystiolaeth sy’n awgrymu y bydd hyd at 70% o fasnachu yn digwydd yn ystod y cyfnod sy’n arwain at yr ŵyl. Mae pwysau ar ein trefi i ddenu rhagor o ymwelwyr yn ystod yr adeg bwysig hon, felly mae’r Cyngor wedi penderfynu dynodi adnoddau i sicrhau profiad Nadoligaidd i’r siopwyr.


Gweithiodd Tîm Adfywio Cyngor Bro Morgannwg gyda’r cynghorau tref i nodi cyfleoedd i fuddsoddi’r cyllid hwn, ac mae’n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth. Goleuadau Nadolig oedd ar ben y rhestr. 
Caiff goleuadau Nadolig eu llogi yn aml, ond mae’r cyllid hwn wedi galluogi trefi i brynu goleuadau a’u defnyddio yn y blynyddoedd i ddod hefyd. 

“Mae ein Stryd Fawr yn wynebu heriau nad ydym ni wedi eu gweld o’r blaen ac felly bydd cefnogi goleuadau a digwyddiadau Nadolig yn cael effaith lawer mwy na dim ond creu ardaloedd manwerthu pert dros gyfnod y Nadolig. Mae’n hynod bwysig i ni annog pobl i siopa yma gwario eu harian yn y Fro  gan y bydd hyn yn ein helpu i greu a diogelu swyddi yn yr economi leol.” - yr Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg, y Cynghorydd Lis Burnett.


Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau cyn y Nadolig i ddathlu gosod y goleuadau newydd. Bydd gosodiadau yn y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth yn goleuo’r prif ardaloedd manwerthu, a bydd goleuadau Nadoligaidd ar Stryd Fawr y Barri, Parc Crescent, Heol Holltwn a Sgwâr y Brenin. 


"Mae’r cyllid hwn wedi ein galluogi i fuddsoddi yn y Bont-faen ar adeg o’r flwyddyn sydd mor bwysig i’n masnachwyr. Bydd y goleuadau Nadolig newydd yn helpu i wneud y Bont-faen yn lle siopa llawn hwyl yn ystod yr Ŵyl, a chyda prynu’r goleuadau bydd y buddsoddiad yn para am flynyddoedd i ddod." - Llefarydd Cyngor Tref y Bont-faen.


Mae’r cynllun hwn yn elfen o fenter ehangach sydd ar gael diolch i gyllid Llywodraeth Cymru. Llwyddodd Cyngor Bro Morgannwg i sicrhau rhan o £20 miliwn oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru drwy gronfa ‘Ysgogi Economaidd’. 


Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn digwyddiadau cynnau goleuadau’r Nadolig a’r digwyddiadau Nadoligaidd eraill:

  • www.visitthevale.com

 

  • Cynnau'r Goleuadau Nadolig - Penarth - dydd Sul 17 Tachwedd
  • Marchnad a Chynnau’r Goleuadau Nadolig - y Barri - dydd Gwener 22 - dydd Sadwrn 23 Tachwedd
  • Penwythnos Nadolig y Bont-faen - dydd Gwener 22 -dydd Sul 24 Tachwedd
  • Marchnad a Chynnau Goleuadau Nadolig y Stryd Fawr yn y Barri dydd Gwener 29 Tachwedd
  • Goleuo Llanilltud Fawr adeg y Nadolig - dydd Sadwrn 30 Tachwedd