Cost of Living Support Icon

 

Dwr nofio Whitmore Bay wedi'i farnu'n rhagorol

Mae ansawdd dŵr nofio Whitmore Bay wedi cael dyfarniad rhagorol unwaith eto yn dilyn y rownd ddiweddaraf o brofion gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

 

  • Dydd Gwener, 15 Mis Tachwedd 2019

    Bro Morgannwg



Winter Whitmore 2
Mae wedi bod yn cael y dyfarniad uchaf ers i safonau ansawdd dŵr nofio llymach gael eu cyflwyno yng Nghymru yn 2015, ond y llynedd, cafwyd un canlyniad afreolaidd, yn groes i ddarlleniadau eraill a arweiniodd at ddyfarniad categori da.


Mae’r canlyniadau nawr yn dangos bod y traeth ar y cyd â Southerndown a Marina Penarth ymysg y mannau gorau ar yr arfordir.


“Rydyn ni wrth ein boddau bod y rownd ddiweddaraf o brofion wedi datgelu unwaith eto mai rhagorol yw ansawdd dŵr nofio Whitmore Bay.


“Mae hyn yn cefnogi eto y syniad bod yr un darlleniad afreolaidd a gafwyd y llynedd oedd yn awgrymu bod ansawdd y dŵr yn is, yn anomaledd.


“Rwyf wastad wedi bod yn ffyddiog bod Whitmore Bay yn cydymffurfio â’r safonau uchaf, ac mae’r canlyniadau diweddaraf hyn yn cefnogi'r safbwynt hwn. Rwyf hefyd yn hynod falch y bydd y canlyniadau diweddaraf hyn yn ein galluogi i wneud cais am achrediad y Faner Werdd ar gyfer Whitmore Bay am dymor 2020.” - Miles Punter, Cyfarwyddwr Tai a’r Amgylchedd yng Nghyngor Bro Morgannwg.


“Mae’r canlyniad ansawdd dŵr hwn yn newyddion gwych i bawb sy’n byw, gweithio a chwarae yn y Bae ac o’i amgylch.

 

“Mae gwneud yn siŵr bod dyfroedd nofio Cymru yn lân ac yn ddiogel i bobl a bywyd gwyllt yn rhan bwysig o’n swydd. Mae’n cefnogi lles y cymunedau lleol a buddsoddiadau yn yr ardal.” - John Hogg, Pennaeth Gweithrediadau Canolbarth De Cymru ar ran CNC.