Cost of Living Support Icon

 

Ai chi fydd Hyfforddwr Chwaraeon y Fro yn y dyfodol?  

Mae gan Gyngor Bro Morgannwg raglen i’r rheiny rhwng 16 a 24 oed sydd â diddordeb mewn arwain neu hyfforddi chwaraeon. 

 

  • Dydd Mawrth, 24 Mis Medi 2019

    Bro Morgannwg



 ‘Hyfforddwyr y Dyfodol’ yw rhaglen etifeddiaeth Olympaidd y Tîm Datblygu Chwaraeon, sydd â’r nod o ‘ysbrydoli cenhedlaeth’ o gyfranogwyr chwaraeon a hyfforddwyr chwaraeon. 

 
Mae’r rhaglen yn cynnig ystod o hyfforddiant chwaraeon am ddim a chyfleoedd cymhwyso i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth a hyfforddi cyfranogwyr, ac mae'n gyfle delfrydol i'r rheiny sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant chwaraeon/hamdden neu i'r rheiny sydd am roi nôl i'w cymunedau. 


Bydd angen i gyfranogwyr arfaethedig fynd drwy broses ymgeisio i sicrhau bod y rhaglen yn iawn iddyn nhw. Bydd angen iddynt ymrwymo i gynorthwyo’n rheolaidd mewn chwaraeo cymunedol / ysgol. Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfleoedd i ennill sawl cymhwyster sy’n berthnasol i hyfforddi:

 

• Cymhwyster Arweinyddiaeth Chwaraeon Lefel 2

• Cymhwyster Corff Llywodraethu Cenedlaethol mewn camp o’ch dewis

• Cwrs Diogelu

• Cwrs cymorth cyntaf 

• Hyfforddiant cynhwysiant anableddau   

 

COTF 2018 - GDPR Compliant - 14 (002)

 

Bydd noson wybodaeth yn cael ei chynnal yn y Swyddfeydd Dinesig, y Barri ddydd Mawrth 1 Hydref. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb alw heibio rhwng 5.00pm a 7.00pm.   Dyddiad cau ceisiadau'r rhaglen yw dydd Gwener, 11 Hydref.


Gall unrhyw un sy’n awyddus i gael mwy o wybodaeth gysylltu â Ben Davies-Thompson, Tîm Byw’n Iach ar 01446 704808 neu e-bostio bdavies-thompson@valeofglamorgan.gov.uk