Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn cymeradwyo cynlluniau i ehangu Ysgol Gynradd Sain Nicolas 

Mae Cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi cymeradwyo cynlluniau i ailadeiladu ac ehangu Ysgol Gynradd Sain Nicolas mewn prosiect gwerth £4 miliwn dan y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

  • Dydd Mawrth, 24 Mis Medi 2019

    Bro Morgannwg

    Cowbridge



Mae’r cynlluniau’n cynnwys cynyddu nifer y lleoedd oedran ysgol gorfodol o 126 i 210, gan hefyd leihau oedran disgyblion ieuengaf Sain Nicolas o bedair i dair i gynnig 48 o leoedd meithrin rhan-amser ychwanegol. 


Bydd yr adeilad newydd, y disgwylir iddo agor ym mis Medi 2021, yn sicrhau y gall yr holl ddisgyblion gael eu haddysgu mewn un lleoliad – ar hyn o bryd mae’n rhaid i’r dosbarthiadau derbyn gael eu hebrwng i safle’r ‘hen ysgol’ tua 85 metr i ffwrdd.


Mae hefyd yn golygu y gallwn fodloni’r galw uwch am leoedd cynradd yn sgil datblygiadau tai lleol.

 

St Nicholas Photo 1

Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau modern, gan gynnwys ardaloedd gorffwys i staff a disgyblion, cyfleusterau chwaraeon awyr agored gwell i’r disgyblion a’r gymuned, a mynediad gwell i bobl anabl.


Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: “Drwy ehangu Ysgol Gynradd Sain Nicolas gall yr ysgol ddarparu ar gyfer y galw cynyddol disgwyliedig yn well ond hefyd roi cyfleusterau gwell, mwy modern i’r disgyblion hynny, a fydd yn gwella eu profiad dysgu.


“Dyma’r prosiect diweddaraf yn ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – corpws o waith pellgyrhaeddol sydd â’r nod o drawsnewid cyfleusterau addysgol ar draws y Fro.”