Cost of Living Support Icon

 

Y dreth gyngor dan drafodaeth yn ymgynghoriad y gyllideb

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio’i ymgynghoriad ar gyllideb y flwyddyn ariannol 2020-21.

 

  • Dydd Llun, 30 Mis Medi 2019

    Bro Morgannwg



 

Yn wynebu diffyg posib yn y gyllideb o £6miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, mae gan y Cyngor benderfyniadau anodd i’w gwneud ac mae’n gofyn am fewnbwn gan y cyhoedd.   

 

Am y tro cyntaf, gofynnir i drigolion ystyried ar ba lefel y dylai’r Cyngor osod y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. 


Roedd gan y Cyngor gyllideb o £226miliwn ym mlwyddyn ariannol 2019-20, a gosododd y Cyngor darged iddo’i hun i arbed £3.8miliwn.  


Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd y Cyngor:

 

“Ers 2010 mae’r Cyngor wedi lleihau ei gyllideb gyfan o £55miliwn ac os yw’r rhagolygon cyfredol yn gywir, bydd chwarter o gyllideb gyfan y Cyngor wedi cael ei herydu dros y degawd diwethaf. 


“Bydd lefel yr arbedion fydd angen y flwyddyn nesaf yn dibynnu ar y Grant Cynnal Refeniw y mae’r Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, a’r lefel y byddwn yn gosod y Dreth Gyngor.  


“Mae’r galw am wasanaethau, yn arbennig addysg a gofal cymdeithasol yn parhau i godi, ynghyd â’r gost o’u darparu nhw. 


“Mae gwarchod y gwasanaethau y mae trigolion yn eu trysori wedi bod wrth galon rhaglen drawsnewid y Cyngor ers dros bum mlynedd. Fodd bynnag, wrth fynd ymlaen ni fydd arbedion ar eu pen eu hunain yn ddigon.  


“Er yn derbyn un o’r grantiau cynnal refeniw isaf yng Nghymru mae’r Cyngor wedi cadw’r dreth gyngor o dan y cyfartaledd Cymreig.  Fodd bynnag, os ydym am barhau i gynnig yr holl wasanaethau yr ydym yn eu cynnig ar hyn o bryd, yna nid yw’r sefyllfa hon yn un gynaliadwy o gwbl.” 


Gall trigolion ddweud eu dweud ar y gyllideb drwy fynd i www.valeofglamorgan.gov.uk/cyllideb