Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn rhoi rheolaeth o gylfeusterau bowlio i glybiau

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn paratoi i roi rheolaeth dros gyfleusterau bowlio’n ôl i’r clybiau sy’n eu defnyddio.

 

  • Dydd Mercher, 25 Mis Medi 2019

    Bro Morgannwg



Yn dilyn llwyddiant menter debyg sydd wedi gweld rhai llyfrgelloedd yn y Sir yn cael eu rhedeg gan grwpiau cymunedol, o 1 Hydref bydd wyth clwb bowlio’n gyfrifol am bethau fel cynnal a chadw’r lawnt a’r pafiliynau.

 

Bydd hyn yn golygu y gall y Cyngor wneud arbedion sylweddol ar adeg pan fo costau cynyddol a chyllidebau llai yn golygu bod angen bod yn ariannol ddarbodus.

 

Dros y 12 mis diwethaf, mae clybiau wedi bod yn paratoi at y newidiadau. Mae hyn wedi cynnwys ceisio noddwyr a threfnu digwyddiadau i godi arian, penodi cwmnïau cynnal a chadw a llogi cyfleusterau at ddefnydd preifat.

 

Cafodd clybiau indemniad pum mlynedd gan y Cyngor, yn eu gwarchod rhag costau gwaith mawr dros y cyfnod hwnnw tra bod arian y clwb yn cronni.

 

“Mae hwn yn ddatblygiad pwysig yn ein ffordd o weithredu sut mae cyfleusterau clybiau chwaraeon yn cael eu rheoli yn y Fro. Mae eu gwneud yn gyfrifoldeb ar glybiau lleol yn rhoi mwy o reolaeth i glybiau, ond drwy leihau lefel y cymorthdaliadau a gânt, mae’n arbed arian i’r Cyngor ar adeg o bwysau ariannol sylweddol. 

 

“Mae’n newid mawr i’r ffordd y caiff clybiau bowlio eu rheoli, ond mae’n wych gweld sut mae’r timau hyn wedi ymateb i’r her.  

 

“Wrth i ni ddal i ymdrechu i brif-ffrydio gwariant y Cyngor, byddwn yn ystyried y posibiliad o gyflwyno trefniadau tebyg i dimau chwaraeon eraill ledled y Sir.” - yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer.