Cost of Living Support Icon

 

Ailddatblygu mawr ar y gweill yn Ysgol Uwchradd Whitmore

Mae gwaith adeiladu ysgol newydd sbon yn Ysgol Uwchradd Whitmore ar fin cychwyn fel rhan o fuddsoddiad gwerth £30.5 miliwn gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Mercher, 25 Mis Medi 2019

    Bro Morgannwg



WHS - Outside banner sizeDan raglen Ysgolion y 21ain Ganrif yr Awdurdod, partneriaeth â Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys uwchraddio cynhwysfawr ar seilwaith addysg trwy’r Fro, caiff y safle ysgol bresennol drawsnewidiad mawr.

 

Gyda lle i 1,100 disgybl, bydd y gwaith, a wneir gan Morgan Sindall Construction, yn helpu i greu amgylchedd dysgu tra fodern gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf.Bydd y gofod addysgu ar draws tri llawr a bydd 70 ystafell ddosbarth gyffredinol, dwy stiwdio ddrama a gweithgareddau ar safle 11,000-metr.

 

Bydd ystafell arbenigol hefyd yn helpu i gynorthwyo myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Mae’r cyfleusterau chwaraeon dan do ac awyr agored yn rhan o’r datblygiad ac maent yn cynnwys cae bob tywydd a chwrt gemau aml-ddefnydd yn ogystal ag iard ar gyfer dysgu mewn grŵp a defnydd anffurfiol. Bydd stiwdio gerddoriaeth hefyd, gyda’r offer diweddaraf, neuadd aml-bwrpas gyda seddau ac ardal fwyta fawr. 

 

Bydd staff a disgyblion yn trosglwyddo i’r adeilad newydd ar gyfer mis Medi 2021 er mwyn dymchwel yr adeiladau presennol a chreu cyfleusterau chwaraeon newydd ac mae disgwyl cwblhau’r project erbyn y gwanwyn 2022. 

 

“Bydd yr ysgol newydd gyda’i chyfleusterau cyfoes yn rhoi’r llwyfan gorau bosibl i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Whitmore i lwyddo. 

 

“Y datblygiad mawr sy’n digwydd yn Ysgol Uwchradd Whitmore yw’r diweddaraf mewn cyfres eang o waith sy’n digwydd dan raglen ysgolion yr 21ain ganrif yw’r mwyaf uchelgeisiol a fu erioed yn y Fro.” - Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio.

Mewn rhan arall yn y Fro, caiff ysgol gwbl newydd ei hadeiladu yn Ysgol Uwchradd Pencoedtre, gan gynnwys neuadd chwaraeon pedwar cwrt, gofod perfformio, amgylcheddau dysgu arloesol, ardaloedd rhandir a chae hoci bob tywydd newydd.

 

Bydd addysg uwchradd gyfrwng Cymraeg hefyd yn manteisio gan fod Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ar fin cael gwaith gwella ac ehangu mawr hefyd.Mae hyn yn dilyn gwaith diweddar arall i adeiladu cymunedau fel Cymuned Ddysgu newydd Llanilltud Fawr a Chymuned Ddysgu Penarth, sydd wedi ennill amryw wobrau.