Cost of Living Support Icon

 

Gwobrwyo Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir am eu llwyddiant diweddar

Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, y corff sy’n gyfrifol am bethau fel Safonau Masnach, diogelwch a thrwyddedu ar draws cynghorau Bro Morgannwg, Caerdydd a Phen-y-bont yn ddiweddar wedi cael gwobr fawr gan y Cyngor Dilysnodi Prydeinig am eu gwaith wrth adnabod ac erlyn gwerthwyr gemwaith anghyfreithlon.

 

  • Dydd Llun, 23 Mis Medi 2019

    Bro Morgannwg



SRS award banner sizeYmchwiliwyd i 21 o werthwyr gemau fel rhan o brojectau gorfodi dilysnodi parhaus a chanfuwyd bod pedwar safle’n gwerthu nwyddau heb ddilysnod. Roedd pumed hefyd yn gwerthu nwyddau ffug ar ffurf eitemau ffug Louis Vuitton a Chanel gyda gwerth manwerthu posibl o £25,000. 


Mewn achos arall, arweiniodd cwyn a wnaed am werthwr ar eBay at ymchwiliad mawr a arweiniodd ar erlyn dau ddyn am werthu gemwaith heb ddilysnod a gamddisgrifiwyd, gemwaith ffug a cholurau anniogel.   


Mae’r Wobr Touchsone flynyddol yn cydnabod y tîm Safonau Masnach sy’n cyflawni’r fenter gorfodi neu addysgol fwyaf effeithiol o ran dilysnodi.


Dywedodd y Cyng Eddie Williams, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoleiddiol a Chynllunio a Chadeirydd y Cydbwyllgor GRhR: “Mae’n bleser o’r mwyaf cael ein cydnabod am ein hymrwymiad i waith gorfodi dilysnodau. Roedd yn benllanw misoedd o waith caled gan ein gweithwyr proffesiynol safonau masnach sy’n ymrwymedig i warchod cwsmeriaid a busnesau ar draws Pen-y-bont, Caerdydd a Bro Morgannwg. 

 

“Ni all economi leol fynnu oni chaiff masnachwyr anonest eu hatal rhag effeithio ar fusnesau onest, cyfreithlon. Mae’r wobr hon yn adlewyrchiad o ethos y GRhR wrth fynd i’r afael â throseddu a mynd yr ail filltir i greu amgylchedd lle taw masnachu teg yw’r norm.”