Cost of Living Support Icon
​

 

Arlwy twristiaeth Bro Morgannwg yn tyfu eto yn 2018

MAE ffigurau newydd wedi datgelu taw Bro Morgannwg oedd un o’r ardaloedd twristiaeth gorau yng Nghymru yn 2018.

 

  • Dydd Iau, 19 Mis Medi 2019

    Bro Morgannwg



Dangosodd ystadegau gan Global Tourism Solutions (GTS), cwmni ymchwil twristiaeth annibynnol sy’n asesu effaith economaidd twristiaeth, i’r ardal dyfu gan 1.5 y cant yn y Sir o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.


Mae GTS wedi llunio STEEAM (Model Asesu Economaidd Twristiaeth Scarborough) sy’n nodi yn ystod 2018 fod diwydiant twristiaeth y Fro werth dros £250 miliwn.


Cynyddodd mesurau eraill fel cyfanswm diwrnodau ymwelwyr, diwrnodau ymwelwyr yn aros, cyfanswm ymwelwyr, nifer yr ymwelwyr yn aros a nifer yr ymwelwyd dydd hefyd.

 

islandnew2

Yn Ynys y  Barri, amcangyfrifwyd bod 425,000 o ymwelwyr, oedd werth £16.2 miliwn i’r economi leol. 


Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’r Fro’n lle gwych i ymweld ag ef, boed am olygfeydd a thraethau hardd yr Arfordir Treftadaeth, y pentrefi gwledig hyfryd neu’r trefi marchnad egnïol.

 

“Fel Cyngor, rydym wedi gweithio’n galed iawn i wneud y Fro’n gyrchfan apelgar i dwristiaid ac mae’r adroddiad hwn yn profi bod yr ymdrech hon yn talu. 


“Gwelodd buddsoddiad sylweddol yng nghyrchfan eiconig Ynys y Barri y promenâd yn cael ei uwchraddio’n helaeth, gan ei wneud yn lle hyd yn oed mwy deniadol i ymweld ag ef.  


“Mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth i’r economi. Trefnwn ac ariannwn raglen digwyddiadau difyr dros yr haf, sy’n cefnogi cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â’r ynys.”