Cost of Living Support Icon

 

Ysgolion yn y Fro sydd yn perfformio yn uchel yn cael eu cydnabod mewn seremoni gwobrwyo 

18 September 2019

  • Dydd Mercher, 18 Mis Medi 2019

    Cowbridge

    Bro Morgannwg

    Barri



Bydd DWY ysgol ym MRO Morgannwg yn cael eu cydnabod am berfformiad ardderchog mewn seremoni cyn bo hir. 


Bydd Ysgol Gyfun y Bont-faen ac Ysgol Sant Curig yn derbyn acolâd yn noson wobrwyo Estyn fis nesaf yn dilyn adroddiadau gwych yn yr arolwg.


Bydd y ddwy yn cael eu llongyfarch fel rhan o ddigwyddiad i gydnabod rhagoriaeth mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru. 

 

Cowbridge Photos 005

Mae Ysgol Gyfun Y Bont-faen wedi derbyn adroddiad arolygiad penigamp ym Mehefin ar ôl cael gradd ragorol ym mhob un o’r pum categori asesu.


Dywedodd Debra Thomas, Pennaeth Ysgol y Bont-faen: “Rydyn ni mor falch o dderbyn sgôr ragorol gan yr arolygiaeth ym mhob maes heb unrhyw argymhellion ar gyfer gwella.  Rydym wedi ymrwymo i gynnig yr addysg gorau posibl i’n holl fyfyrwyr ac rydym yn falch iawn o dderbyn yr acolâd hwn" 

 

Cafodd Ysgol Sant Curig adborth gwych hefyd, a gafodd sgôr ragorol ym meysydd Llesiant ac agweddau o ran dysgu; Gofal, cymorth a chyfarwyddyd ac Arwain a Rheoli. 


Yn adrannau eraill Safonau a Phrofiadau Addysgu a Dysgu, cafodd yr ysgol ei disgrifio fel da.  

 

Dywedodd Sian Owen, Pennaeth Ysgol Sant Curig:  Rydym yn falch iawn bod yr adroddiad yn adlewyrchu cryfderau ein hysgol ac yn amlygu gwaith caled ac ymroddiad pob aelod o staff.  Rydym yn falch iawn o’n cyflawniadau ac yn cydnabod gwerth cyfraniadau gan yr holl randdeiliaid.” 

Sant CurigFe wnaeth yr arolygwyr hefyd wahodd yr ysgolion i gyflwyno astudiaeth achos o’u gwaith o gynnal rhagoriaeth i’w ddefnyddio fel enghraifft i eraill ar wefan Estyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’r gwobrau hyn yn gwbl haeddiannol ac yn cydnabod eu canlyniadau gwych yn yr arolwg. 


“Mae gan y Fro nifer uchel o ysgolion o’r radd flaenaf.  Mae Ysgol y Bont-faen ac Ysgol Sant Curig yn sefyll allan fel dwy o'r goreuon ac yn gosod y safonau i eraill ledled Cymru.”