Cost of Living Support Icon

 

Llyfrbryfed y Fro yn heidio i ddigwyddiad awdur yn Llyfrgell y Barri 

Yn ddiweddar rhoddodd y llyfrgell a gaiff ei redeg gan Gyngor Bro Morgannwg groeso i’r awdur rhyngwladol poblogaidd, Amanda Prowse, y bu i’w phrofiadau bywyd ysbrydoli tua 20 o nofelau. 

 

  • Dydd Llun, 23 Mis Medi 2019

    Bro Morgannwg



Audience at event banner sizeMynychwyd y digwyddiad gan dros 50 o ddilynwyr brwd, digwyddiad a agorodd gydag Amanda yn siarad am ei phlentyndod yn Nwyrain Llundain a’r profiad o gael ei magu gydag ond ychydig iawn o arian. Yna bu’n trafod ei phrofiadau fel gwraig i filwr ar gyrch, derbyn diagnosis o ganser, ac ymgais ei mab i wneud amdano ’i hun. 

 

Pwysleisiodd Amanda bwysigrwydd llyfrau a llyfrgelloedd yn ei bywyd, a sut maent wedi cyfrannu at ei llwyddiant. Yna rhoddwyd copi o’i chyfrol newydd, Will You Remember Me? i’r ymwelwyr. 


Dwedodd un ymwelydd: Carwn ddiolch o galon i chi am y noswaith hyfryd a dreulion ni yn y llyfrgell nos Iau. Mwynhawyd y digwyddiad a’i werthfawrogi’n drwyadl gan y grŵp cyfan.


Roedd y sgwrs gan Amanda Prowse yn ddidwyll ac yn codi’r ysbryd, mae’n berson anhygoel ac yn profi er gwaetha’r anawsterau, yr hyn y gellir ei gyflawni gyda gwaith caled a phenderfyniad ond gyda help a chariad teulu a ffrindiau.


“Unwaith eto diolch i chi a staff y llyfrgell ac edrychwn ymlaen i’r digwyddiad nesaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Hamdden, Celfyddydau a Diwylliant: “Rydym yn ffodus yn y Fro i gael cymuned mor weithgar yn ein llyfrgelloedd. Maent yn chwarae rhan allweddol wrth annog ein diwylliant o greadigrwydd a dysgu ymhlith ein preswylwyr fel y mae'r digwyddiad hwn yn ei ddangos."

Mae calendr helaeth o ddigwyddiadau gan y llyfrgell drwy’r flwyddyn, am ragor o wybodaeth ewch i dudalen Facebook y llyfrgell: