Cost of Living Support Icon

 

Menter byw'n iach y Fro yn cael ei alw'n "rhagorol"

Galwodd mam i ferch ag anawsterau dysgu menter Couch to 5k Cyngor Bro Morgannwg yn “rhagorol”, wedi iddi gofrestru ar y rhaglen.

 

  • Dydd Mawrth, 17 Mis Medi 2019

    Bro Morgannwg



park runners rebecca and rachel banner size
Cofrestrodd Rachel Reynolds a’i merch Rebecca Netherway ar gyfer y fenter ffitrwydd a drefnwyd gan Dîm Byw’n Iach y Cyngor. Y nod yw i helpu pobl nad ydynt yn ymarfer corff i redeg pum cilometr. 


Mae Rebecca yn 29 oed ac mae ganddi anawsterau dysgu ac epilepsi. Mae ei chyflwr yn golygu na all weithio na byw’n annibynnol ac mae angen cymorth arni gyda bywyd bob dydd. Mae ei mam, Rachel, yn dweud y cafodd ei hysbrydoli i gymryd rhan o’r dechrau:


“O’r eiliad y cododd y daflen, roedd yn awyddus iawn a gofynnodd a allem ni ei wneud gyda'n gilydd.  Fe fydda’ i bob amser yn trio ei hannog i gadw’n actif ac roedd mor awyddus, doeddwn i ddim yn mynd i golli’r cyfle. 

 

“Roedden ni braidd yn nerfus i ddechrau, achos roedd yn rhywbeth hollol anghyffredin i ni. Ond o’r diwrnod cyntaf bu’r tîm a’r criw Seriously Mad Runners yn anhygoel.”


“Mae ffocws pendant ar ddyfalbarhad, yn hytrach nag ar gyflymder – dal i symud sy’n bwysig. Ac bydd un ohonyn nhw bob amser yn rhedeg neu’n cerdded wrth eich ochr. Byddwn i’n argymell y rhaglen i unrhyw un sy’n dechrau, bu’n brofiad cadarnhaol, allwn i ddim dweud unrhyw beth gwael amdani.”

 

I Rebecca yn benodol, mae’r rhaglen wedi gwella mwy na’i ffitrwydd yn unig:


“Cafodd teimlad go iawn o gyflawniad ar ôl y naw wythnos. Yn aml dydy hi ddim yn gwneud ymarfer corff gyda llawer o frwdfrydedd. Ond o’r diwrnod cyntaf roedd yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliad – roedd yn edrych ymlaen yn fawr at fynd i’r sesiynau a dyma fel mae hi nawr. 


“Mae gorffen hyn wedi rhoi hwb mawr i’w hyder. Mae’r gymuned yn llawn anogaeth ac mae’r clwb yn eich cefnogi chi ar bob cam o’r ffordd. Mae wedi troi’n angerdd go iawn. 


“Cyn dechrau, roedd Rebecca wedi bod yn teimlo'n flinedig iawn. Aethom ni hyd yn oed at y meddyg i wneud profion ond daethant yn ôl yn normal. Pan ddechreuon ni redeg, gwelon ni wahaniaeth mawr yn lefelau ei hegni.”


Y flwyddyn nesaf, mae’r merched yn bwriadu rhedeg ras 10k y Barri gyda help y Tîm Byw’n Iach a’r criw Seriously Mad Runners. 


“Mae’r sesiynau O’r Soffa i Redeg 5K yn gyfle gwych i oedolion o bob gallu i wella eu lles. Rwy’n falch o glywed stori Rebecca a’r effaith gadarnhaol mae’r sesiynau hyn wedi’i chael ar ei hyder a’i hiechyd yn gyffredinol. 


“Da iawn i’r holl redwyr a gymerodd ran yn y rhaglen, ac i’r timau sy’n gyfrifol.” - Yr Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol a Iechyd y Cyng Ben Gray.