Cost of Living Support Icon

 

Delio â Pharcio Gwael gyda Llygaid Digidol

Cyn hir bydd car camera gorfodi parcio sifil yn patrolio strydoedd Bro Morgannwg i gynorthwyo swyddogion gorfodi'r Cyngor i ddelio â pharcio peryglus.  

 

  • Dydd Mawrth, 04 Mis Awst 2020

    Bro Morgannwg



Mae hyn er mwyn helpu gyda gorfodi lle mae parcio’n gallu achosi problemau, fel y tu allan i ysgolion, safleoedd bws a lleoliadau eraill lle gwaherddir parcio tymor byr. 


Ar hyn o bryd, mae swyddogion gorfodi parcio sifil yn ei chael hi'n anodd gorfodi parcio mewn ffordd briodol ar droed ger ysgolion.

 

Mae parcio ar linellau igam-ogam a throseddu ger ysgolion yn tueddu i ddod i ben pan fydd swyddog i’w weld, ond pan fo troseddau o’r fath yn parhau, yn aml ni fydd swyddogion yn gallu cyflwyno Hysbysiad Tâl Cosb yn y cyfnod byr iawn mae’n ei gymryd i blentyn fynd allan o'r car. 

 

Yn ogystal â phroblemau parcio, mae nifer o safleoedd croesi ger ysgolion y gellid eu patrolio gan gerbyd gorfodi symudol gyda'r nod o wella diogelwch ymhellach yn yr ardaloedd.


Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth:

"Mae ysgolion yn rhoi gwybod am barcio peryglus i dîm Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth y Cyngor. Er bod y rhan fwyaf o drigolion y Fro yn ofalus ac yn ystyriol wrth barcio, mae yna leiafrif sy'n achosi problemau, yn enwedig ger ysgolion ac yng nghanol trefi. Y gobaith yw, felly, y bydd cyflwyno car camera i'r ardaloedd hyn yn cael ei groesawu.

 

"Mewn mannau eraill mae mannau tacsi a safleoedd bws hefyd yn cael eu defnyddio’n aml i ollwng pobl, ac rydym yn rhagweld y bydd cerbyd gorfodi symudol, gyda’r gallu i gasglu tystiolaeth ar unwaith, yn amhrisiadwy yn yr ymdrech i atal parcio a gollwng peryglus ac anystyriol yn y lleoliadau hyn."

Dyrannwyd £70,000 o gyllid i adran Gwasanaethau Cymdogaeth y Cyngor yn rhan o'r Rhaglen Gyfalaf 2019/20 ar gyfer darparu cyfrwng pwrpasol i orfodi yn erbyn tramgwyddau parcio. Bydd cyfran sylweddol o'r arian hwn yn talu am y drwydded a chostau offer arbenigol.

 

Mae'r Cyngor wedi defnyddio ymgyrch 'Parcio’n ystyriol' yn y gorffennol i annog parcio diogel a chyfreithlon. Credir y bydd defnyddio car camera yn arf arall i atal parcio a gollwng peryglus.

 

Bydd y Cyngor yn cynnal ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol cyn bo hir i wahodd awgrymiadau ar gyfer enw'r cerbyd. Croesewir yn arbennig awgrymiadau gan blant ysgol, gan mai un o brif amcanion y cerbyd yw gwella diogelwch y tu allan i ysgolion Bro Morgannwg.