Cost of Living Support Icon

 

Gosod yr uned chwarae Gymraeg gyntaf mewn maes chwarae yn y Barri

Mae gwaith i osod bwa gemau rhyngweithiol newydd wedi cael ei gwblhau ym Mharc Canolog, y Barri.

 

  • Dydd Gwener, 28 Mis Awst 2020

    Bro Morgannwg



Yalp Sona Banner

 
Y 'Sona', a wnaed gan gwmni 'Yalp' o’r Iseldiroedd, yw'r cyntaf o'i fath i gael ei osod yng Nghymru. Dyma'r fersiwn gyntaf hefyd i gynnwys meddalwedd Cymraeg a Saesneg.


Mae'r uned yn gweithio'n reddfol trwy synhwyrydd symud. Mae'n herio chwaraewyr i amrywiaeth o gemau, megis cystadlaethau dawnsio a thraciau rasio, gyda lefelau'n cynyddu o ran her.


Mae'r llawr chwarae 4x4 metr hefyd yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a gall sawl plentyn ei ddefnyddio ar yr un tro. 

Dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor ac aelod cabinet dros addysg ac adfywio, y Cynghorydd Lis Burnett: "Rydym wrth ein boddau yn croesawu'r darn gwych hwn o dechnoleg i'r Parc Canolog ac rydym yn falch o fod yn gartref i fersiwn Gymraeg gyntaf yr uned.

 

"Mae dyluniad tra chyfoes Yalp yn cynnig amrywiaeth o gemau cyffrous sy'n fythol ddatblygu a dyma’r cam cyntaf mewn cyfres o brojectau i drawsnewid y man chwarae. Edrychwn ymlaen at weld rhagor o’r gwelliannau sydd yn yr arfaeth dros y 12 mis nesaf."