Cost of Living Support Icon

 

Casgliadau Ailgylchu Ar Wahân yn dod i’r Barri

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cyflwyno system ailgylchu didoli yn y Barri ym mis Hydref.

 

  • Dydd Iau, 20 Mis Awst 2020

    Bro Morgannwg



Four-new-containers
Bydd hyn yn golygu y gellir ailgylchu mwy o'r deunydd a gesglir, gan leihau effaith niweidiol gwastraff domestig ar yr amgylchedd naturiol.


Bydd y system newydd, sydd eisoes ar waith mewn rhannau eraill o'r Fro, yn ei gwneud yn ofynnol i breswylwyr drefnu rhai elfennau o'u hailgylchu mewn cynwysyddion unigol.


Er y bydd gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd a chasgliadau bagiau du yn aros yr un fath, bydd yn ofynnol i breswylwyr roi papur, cardbord, gwydr, tuniau a phlastig mewn pedwar cynhwysydd ar wahân.


Fel o’r blaen ni chaiff aelwydydd roi dim mwy na dau fag du o wastraff na ellir ei ailgylchu allan bob pythefnos. Fodd bynnag, gellir cynyddu'r nifer hwn i bedwar fel mesur dros dro os ydynt yn cael trafferth â swm y gwastraff na ellir ei ailgylchu ar ôl y cyfnod cloi.


Mae casglu gwastraff fel hyn yn golygu y gellir ailgylchu mwy ohono, sy'n well i'r amgylchedd ac yn fwy cost-effeithiol.


I ddechrau, bydd adeiladau fflatiau sydd â phwyntiau casglu gwastraff ac ailgylchu cymunedol yn parhau gyda'r system ailgylchu cymysg bresennol.


Mae cynlluniau ar y gweill i dreialu'r defnydd o gynwysyddion mawr mewn nifer o'r lleoliadau hyn lle gellir rhoi deunyddiau ailgylchu wedi'u didoli a bydd trigolion yn cael gwybod rhagor am hyn maes o law.